Cyngor Sir Ynys Môn

Cyfeirlyfr adeiladau cymunedol


Mae’r cyfeirlyfr hwn yn rhoi gwybodaeth am adeiladau cymunedol Ynys Môn.

Gall pobl, cymunedau a sefydliadau ddarganfod sut i archebu gweithgareddau, pa gyfleusterau sydd ar gael a’r math o weithgareddau sydd ar gael. Mae gwybodaeth ar gael am hygyrchedd hefyd.

Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys o dan wardiau gwleidyddol Ynys Môn. Gallwch ddefnyddio’r map rhyngweithiol neu’r dolenni ar y dudalen hon i ddod i wybod mwy am yr adeiladau cymunedol sydd ar gael.

Ynys Môn Oed Gyfeillgar

Mae’r cyfeirlyfr wedi ei ddatblygu fel rhan o Ynys Môn Oed Gyfeillgar sy’n gweithio tuag at greu Ynys Môn lle nad oes unrhyw rwystrau i heneiddio’n dda.

Ychwanegwch eich adeilad i'r cyfeiriadur

Os hoffech gynnwys eich adeilad yn y cyfeirlyfr, cysylltwch â: 

Copi papur

Os hoffech gopi papur o’r cyfeirlyfr hwn, cysylltwch â: 

Os hoffech ychydig o help

Os ydych chi’n:

  • profi diffyg hyder
  • yn teimlo’n gymdeithasol unig
  • eisiau gwella eich iechyd corfforol
  • angen ychydig o wybodaeth neu gefnogaeth i fynychu rhai o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal

mae cymorth ar gael drwy wasanaeth tanysgrifio cymdeithasol Medrwn Môn.  

Gwe: https://www.medrwnmon.org/cy/community-link

Rhif ffôn: 01248 725 745

Wardiau