Rydym wedi gwneud newid bach i'r ffordd rydych chi'n mewngofnodi i'ch 'Fy Nghyfrif Môn'.
Rydym wedi gwella ein system fewngofnodi i wneud y broses yn fwy diogel. Does dim angen poeni, gan y bydd eich cyfrif a'ch gwybodaeth bersonol yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
Beth welwch chi
Y prif wahaniaeth y bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn ei weld yw newid bach i'r cyfeiriad gwe (URL) a ddefnyddir yn ystod y broses fewngofnodi.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Mae'n debygol na fydd angen i chi wneud dim byd.
Fodd bynnag, efallai y gofynnir i chi greu cyfrinair newydd y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi, os nad yw eich cyfrinair presennol yn bodloni ein gofynion cyfrinair.
Rhaid i'ch cyfrinair fod o leiaf 8 nod o hyd a chynnwys 3 o'r canlynol:
- llythyren fach
- llythyren fawr
- rhif (0-9)
- symbol
Unwaith y byddwch yn mewngofnodi, gallwch barhau i ddefnyddio eich cyfrif fel arfer.
Mae Fy Nghyfrif Môn yn caniatáu i chi reoli eich ceisiadau gwasanaeth a chyfrifon gyda ni.
Gallwch ddefnyddio Fy Nghyfrif Môn ar eich ffôn, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur personol i wneud ceisiadau gwasanaeth i'r cyngor a rheoli eich ceisiadau ar-lein.
Nid oes rhaid i chi greu cyfrif i ddefnyddio platfform Fy Nghyfrif Môn, ond rydym yn argymell eich bod yn gwneud hynny.
Ewch i Fy Nghyfrif Môn
Manteision creu cyfrif
Mae creu cyfrif yn arbed amser i chi gyda chwblhau eich manylion cyswllt yn awtomatig wrth lenwi ffurflenni a gallwch weld eich ceisiadau hanesyddol a'ch cyfrifon.
Mae'n llawer haws i ni drafod pethau gyda chi os oes gennych chi gyfrif.
Byddwch hefyd yn gallu gweld eich dyddiadau casglu biniau nesaf ar yr hafan unwaith y byddwch wedi mewngofnodi.
Creu cyfrif
- Ewch i’r tudalen Fy Nghyfrif Môn.
- Dilynwch y ddolen ‘Cofrestru’.
- Rhowch y cyfeiriad e-bost yr ydych isiau ei ddefnyddio. Dyma fydd eich enw defnyddiwr.
- Crëwch gyfrinair; bydd rhaid iddo gwrdd â’r gofynion cyfrinair.
- Wedyn defnyddiwch y botwm ‘Cyflwyno’ i greu’r cyfrif.
Actifadu’r cyfrif
- Yna byddwch yn cael neges yn dweud y bydd angen i chi wirio pwy ydych chi trwy fynd i'ch cyfrif e-bost.
- Byddwch yn cael e-bost dwyieithog yn gofyn ichi actifadu eich cyfrif.
- Bydd y ddolen actifadu yn yr e-bost yn mynd â chi i Fy Nghyfrif Môn.
- Rhowch eich enw defnyddiwr (eich cyfeiriad e-bost) a'r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru a mewngofnodi.
Creu eich proffil
- Cwblhewch fanylion eich proffil drwy ychwanegu eich enw, manylion cyswllt a chyfeiriad, ac yna defnyddiwch y botwm ‘Cyflwyno’ i gadw’r manylion hyn.
Yna byddwch yn cael eich tywys i'ch tudalen gartref newydd.
- Ewch i dudalen we Fy Nghyfrif Môn.
- Dilynwch y botwm mewngofnodi.
- Dilynwch y ddolen ‘Wedi anghofio cyfrinair’.
- Ar y sgrin nesaf, rhowch eich cyfeiriad e-bost a chyflwyno.
- Byddwch yn cael e-bost gyda dolen ailosod cyfrinair.
- Dilynwch y ddolen hon a rhowch gyfrinair newydd, cadarnhewch y cyfrinair newydd a'i gyflwyno.
- Yna byddwch yn cael eich mewngofnodi'n awtomatig i'ch cyfrif.
- Ewch i dudalen we Fy Nghyfrif Môn a mewngofnodwch i'ch cyfrif.
- Mae dolen ar hafan eich ‘Fy Nghyfrif Môn’ i ddiweddaru eich cyfrif. Mae'r ddolen yn eistedd o fewn y neges groeso sy'n rhestru rhai o'ch manylion personol.
- Gallwch chi ddiweddaru eich:
- cyfeiriad e-bost
- cyfrinair
- proffil (gan gynnwys eich teitl, enw, dewisiadau iaith, rhifau ffôn, dull o gyfathrebu)
- manylion cyswllt
- cyfeiriad
- Ar ôl gwneud unrhyw newidiadau, arbedwch nhw trwy ddefnyddio’r botwm ‘Cyflwyno’.
Weithiau, byddwn yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth ar ôl i chi anfon ffurflen atom trwy Fy Nghyfrif Môn.
Byddwn ond yn gwneud hyn os ydych wedi cofrestru gyda ‘Fy Nghyfrif Môn’.
Pan fyddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth, bydd gennych 15 diwrnod i ddod yn ôl atom. Os na fyddwch yn dychwelyd atom, byddwn yn cau'r achos. Byddwch yn cael e-byst atgoffa rheolaidd cyn i ni gau'r achos.
Bydd angen i chi greu cais newydd os yw'r mater yn dal i fod yn rhywbeth yr hoffech wneud cais amdano neu ofyn i ni amdano.
Sut i ateb cais am ragor o wybodaeth
- Os byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth, byddwch yn cael e-bost oddi wrthym.
- Ar ôl darllen yr e-bost, mewngofnodwch i'ch Fy Nghyfrif Môn.
- Ewch i ‘Fy ngheisiadau’ ac o dan y pennawd ‘Statws cais’ fe welwch y gair ‘Angen gweithred’ os ydym wedi gofyn i chi am ragor o wybodaeth.
- Agorwch y cais.
- Defnyddiwch y botwm ‘Parhau’ i weld pa wybodaeth rydym wedi gofyn amdani.
- Atebwch y cais a’i anfon atom drwy ddefnyddio’r botwm ‘Cyflwyno’.
- Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom eto, caiff y broses ei hailadrodd.