Cyngor Sir Ynys Môn

Datganiad hygyrchedd


Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cyngor Sir Ynys Môn: https://www.ynysmon.llyw.cymru yn ogystal â systemau trydydd parti eraill perthnasol.

Mae gwefan Cyngor Sir Ynys Môn yn defnyddio cod HTML a steiliau CSS dilys. Ein nod yw gwneud yn siŵr bod y safle mor hygyrch â phosib i bawb a’i bod yn cydymffurfio â safon AA fersiwn 2.2 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) a Menter Hygyrchedd y We (WAI) y W3C. Mae’r safle’n defnyddio dyluniad ymatebol, sy’n newid cynllun tudalennau gwe fel eu bod yn gweithio’n dda ar gyfrifiaduron, tabledi a ffonau symudol.

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn.  Rydym am i gymaint o bobl â phosib allu ei defnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech, er enghraifft, allu gwneud y pethau canlynol:

  • newid lliw, lefelau cyferbynnedd a ffont
  • chwyddo’r cynnwys 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiwn fwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd yn deall pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr bod testun y safle mor syml â phosib fel ei fod yn ddalladwy.

Mae AbilityNet (dolen allanol) hefyd yn darparu cyngor ar sut y gallwch wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch ydi’r wefan

Rydym yn ymwybodol nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch eto:

  • Nid yw rhai dogfennau PDF, Word ac Excel yn gwbl hygyrch i feddalwedd  darllen sgrin.
  • Efallai y byddwn yn cyhoeddi dogfennau sydd yn addas i’w hargraffu, nad ydynt yn hygyrch, os ydi’r wybodaeth eisoes ar gael mewn fformat hygyrch ar yr un dudalen. Bwydlenni cinio ysgol, er enghraifft, fel y gall ysgolion argraffu’r atodiadau os ydynt yn dymuno.
  • Nid yw pob fideo sy’n cael ei ffrydio yn cynnwys capsiynau.
  • Map Môn – nid yw’n safle mapio (Map Môn) yn nodi iaith y dudalen er mwyn helpu technolegau cynorthwyol, megis meddalwedd darllen sgrin, i drosi testun yn iaith lafar ddealladwy.
  • Map hawliau tramwy cyhoeddus - nid yw ein safle map hawliau tramwy cyhoeddus yn cwrdd â gofynion WCAG2.2AA.

Adborth a manylion cyswllt

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â digidol@ynysmon.llyw.cymru 

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille: 

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 15 diwrnod.  

Gweithdrefn orfodi 

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS). 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ar y wefan

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

Statws cydymffurfiaeth 

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2  

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw’r cynnwys sydd wedi ei nodi isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Ddim yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd:  

Nid yw rhai dogfennau PDF, Microsoft Word a Microsoft Excel yn gwbl hygyrch 

Does gan rai PDFs ddim teitl. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.2 A - 2.4.2 Teil tudalen. 

Mae problemau eraill hefyd gyda ffeiliau PDF sy'n golygu nad ydynt yn hygyrch i feddalwedd darllen sgrin. Ein nod yw datrys y mater hwn erbyn mis Ebrill 2026.

Cysylltwch â ni i ofyn am ddogfennau mewn fformat arall.

Gallwn gyhoeddi dogfennau y bwriedir eu hargraffu 

Efallai y byddwn yn cyhoeddi dogfennau sydd yn addas i’w hargraffu, nad ydynt yn hygyrch, os ydi’r wybodaeth eisoes ar gael mewn fformat hygyrch ar yr un dudalen.

Bwydlenni cinio ysgol, er enghraifft, fel y gall ysgolion argraffu’r atodiadau os ydynt yn dymuno.

Fideo 

Mae peth cynnwys fideo ar y wefan heb gapsiynau, disgrifiadau sain / cyfryngau amgen.

Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.2 A - 1.2.2 Capsiynau, 1.2.3 Disgrifiad Sain / cyfrwng amgen, na meini prawf y WCAG 2.2 AA - 1.2.5 Disgrifiad sain / cyfrwng amgen.

Ein nod yw datrys y materion hyn erbyn mis Ebrill 2026.

Mapiau 

Nid yw’n safle mapio (Map Môn) yn nodi iaith y dudalen er mwyn helpu technolegau cynorthwyol, megis meddalwedd darllen sgrin, i drosi testun yn iaith lafar ddealladwy.

Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.2 A - 3.1.1 Iaith y dudalen.

Nid yw'r safle Map Môn yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.2 A - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth. 

Map hawliau tramwy cyhoeddus

Nid yw ein safle map hawliau tramwy cyhoeddus yn cwrdd â gofynion WCAG2.2AA:

  • Botwm heb destun amgen - ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth. 
  • Nid yw'r cyferbyniad lliw yn cwrdd â'r gofynion - ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2 AA - 1.4.3 Cyferbyniad Lliw (Minimwm). 
  • Pennawdau gwag - ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2 AA - 2.4.6 Pennawdau a labeli. 
  • Maes ffurflen heb label - ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2 AA - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth. 
  • Botwm llun heb destun amgen - ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2 AA - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth. 
  • Llun heb destun amgen - ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2 AA - 1.1.1 Cynnwys Di-destun. 
  • Ffrâm heb destun amgen - ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2 AA - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth. 
  • Nid yw'r elfen ryngweithiol yn bodloni isafswm maint na bylchau - ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2 AA - 2.5.8 Maint Targed (Minimwm). 
  • Dolen heb destun amgen - ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2 AA - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth. 
  • Nid yw dolenni yn hawdd i'w hadnabod - ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2 AA - 1.4.1 Defnydd o Liw. 

Ein nod yw datrys y materion hyn erbyn mis Ebrill 2025.

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol. Nid ydym yn honni bod unrhyw faterion hygyrchedd yn afresymol i’w datrys.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill 

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.  

Fideos wedi’u recordio ymlaen llaw a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020

Nid yw’r rhan fwyaf o’r fideos a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 yn cynnwys capsiynau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf 1.2.2 Capsiynau (fideos wedi’u recordio ymlaen llaw) yn WCAG fersiwn 2.1. Mae’n bosib na fyddwn yn ychwanegu capsiynau i’r fideos hyn gan fod fideos a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 wedi’u heithrio rhag cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd.

Mae’n bosib y bydd rhai o’r fideos a recordiwyd ymlaen llaw cyn 23 Medi 2020 angen disgrifiad sain, ond nad ydynt yn cynnwys disgrifiad sain. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf 1.2.5 Disgrifiad Sain  (fideos wedi’u recordio ymlaen llaw) yn WCAG fersiwn 2.1. Ni fyddwn yn ychwanegu disgrifiad sain i’r fideos hyn  gan fod fideos a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 wedi’u heithrio rhag cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd.

Mae pob fideo a recordiwyd ymlaen llaw ac a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2020 bellach yn bodloni’r safonau hygyrchedd. 

Fideos byw

Nid yw fideos byw yn cynnwys capsiynau. Mae hyn yn groes i faen prawf llwyddiant 1.2.4 (capsiynau – byw) yn WCAG fersiwn 2.1.

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau i fideos sy’n cael eu ffrydio’n fyw gan fod fideos byw wedi’u heithrio rhag cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd. 

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwneud y wefan yn fwy hygyrch.

  • Ein nod yw cael cyn lleied o ddogfennau PDF â phosib ar ein gwefan trwy weld os oes modd i’r cynnwys gael ei ychwanegu fel tudalen we neu ddogfen HTML.
  • Rydym yn gweithio gyda'n gwasanaethau i godi ymwybyddiaeth o'r angen i gwrdd a rheoliadau hygyrchedd.
  • Byddwn yn parhau i ddatblygu ymwybyddiaeth o fewn y cyngor ynglŷn â hygyrchedd i wneud yn siŵr bod cynnwys yn hygyrch cyn iddo gael ei gyhoeddi ar y wefan.
  • Rydym yn rhedeg gwiriad hygyrchedd awtomatig drwy'r safle pob wythnos (gan ddefnyddio ein partner trydydd-parti Siteimprove) a gweithio gyda staff y gwasanaethau i drwsio unrhyw faterion.
  • Byddwn yn archwilio siwrneiau defnyddwyr yn rheolaidd i weld a ydynt yn hygyrch.
  • Byddwn yn parhau i weithio â chyflenwyr trydydd parti i wneud yn siŵr bod eu meddalwedd yn hygyrch. 

Os dewch o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Digidol digidol@ynysmon.llyw.cymru  

Paratoi y datganiad hygyrchedd hwn

Mae profion awtomatig wedi cael eu cynnal yn wythnosol ynghyd ag archwiliad cydymffurfiaeth gan arbenigwyr.

Rydym wedi profi’r canlynol:

  • prif blatfform y wefan, sydd ar gael yn https://www.ynysmon.llyw.cymru
  • tudalen hafan http://democratiaeth.llyw.cymru, gwasanaeth sy’n seiliedig ar wahanol blatfform technegol ond sy’n edrych fel ein gwefan ni.
  • Fy Nghyfrif Môn - gwasanaeth sy’n seiliedig ar wahanol blatfform technegol ond sy’n edrych fel ein gwefan ni.
  • safle mapio - gwasanaeth sy’n seiliedig ar wahanol blatfform technegol ond sy’n edrych fel ein gwefan ni.
  • safle recriwtio - gwasanaeth sy’n seiliedig ar wahanol blatfform technegol ond sy’n edrych fel ein gwefan ni.  

Paratowyd y datganiad hwn ar 26 Medi 2020. Fe’i diweddarwyd ar 19 Gorffennaf 2024. 

Mae tudalennau ein gwefan yn cael eu profi yn gyson gan Siteimprove.com