Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Preifatrwydd a chwcis


Mae  eich  hawl  i  breifatrwydd  yn bwysig  iawn  i  ni  ac  rydym  yn  gwerthfawrogi  eich  bod  yn  ymddiried  ynom  i weithredu mewn ffordd gyfrifol wrth ddewis rhoi eich manylion personol i ni. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn eich hysbysu o ran sut rydym yn gofalu am eich data personol pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, pan fyddwch yn anfon neges e‐bost atom, neu pan fyddwch yn cyflwyno ffurflen ar‐lein trwy ein gwefannau, ein pyrth ar‐lein a’n hap (sut bynnag y byddwch yn ymweld ag ef) ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu chi. 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Caiff yr holl ddata a gyflwynir gan ymwelwyr â’r wefan hon a’r pyrth ar‐lein ei brosesu yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Caiff  yr  holl  wybodaeth  a  gesglir  gan  Gyngor  Sir  Ynys  Môn  ei  chadw  a’i  chynnal  mewn  cronfeydd  data  dan berchnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn. 

Cwcis

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i gofio pethau fel pa iaith rydych wedi'i dewis, y drefn rydych wedi bod yn edrych ar dudalennau neu ydych chi wedi ymweld â'r safle o'r blaen.  Gallwch weld rhestr o'r cwcis rydym yn eu defnyddio isod.

Ffeil destun fechan yw 'cwci', y mae porwr y we yn ei hysgrifennu ar eich cyfrifiadur. Nid yw'n cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol; dim ond marcwyr ydynt i gofio’r pethau rydych chi wedi'u dewis pan fyddwch yn ymweld â'r safle.  Mae 2 fath o gwci: dim ond pan fyddwch yn ymweld â'r safle y defnyddir cwcis ‘sesiwn’ ac maent yn cael eu dileu pan fyddwch yn cau'r porwr.  Mae cwcis ‘parhaus’ yn cael eu cadw am gyfnod penodol dros dro ar eich cyfrifiadur a gellir eu hailddefnyddio pan fyddwch yn ail ymweld â'r safle.   Gallwch ddysgu rhagor ar wefannau fel y wefan hon: www.allaboutcookies.org neu www.aboutcookies.org

Gallwch osod eich porwr gwe i ganiatáu, atal neu ofyn i chi am benderfyniad pan ddefnyddir cwcis ar y wefan hon.  Gyda rhai porwyr, gallwch ganiatáu cwcis sesiwn, hyd yn oed os ydych eisiau atal mathau eraill ohonynt.  Rydym yn argymell eich bod yn galluogi o leiaf cwcis sesiwn ar gyfer y wefan hon, fel bod swyddogaethau sylfaenol fel eich dewis iaith yn gweithio'n gywir.

s
Gwybodaeth Cwcis
EnwRôlDisgrifiadDod i ben
ASP.NET_SessionId Angenrheidiol Mae ID y sesiwn yn galluogi cymhwysiad ASP.NET i gysylltu porwr penodol â data sesiwn cysylltiedig a gwybodaeth ar y gweinydd Gwe. Cwci diofyn yw hwn a ddefnyddir gan Contensis. Sesiwn
cookieAcknowledge Angenrheidiol Mae'r cwci yma yn dweud wrth y wefan a yw'r defnyddiwr penodol wedi cydnabod y faner cwci. 90 Diwrnod
cookiePrefs Angenrheidiol Mae'r cwci yma yn dweud wrth y wefan a yw'r defnyddiwr penodol wedi caniatáu cwcis dewis. 90 Diwrnod
cookieStats Angenrheidiol Mae'r cwci yma yn dweud wrth y wefan a yw'r defnyddiwr penodol wedi caniatáu cwcis ystadegol neu ddadansoddol. 90 Diwrnod
alertBanner(Cy,En) Angenrheidiol Mae'r rhain ar gyfer y baneri rhybuddio, gan ddweud wrth y porwr a yw defnyddiwr wedi gweld y faner ac a ddylid ei dangos / cuddio. 90 Diwrnod
wbb-user-api Angenrheidiol Fe'i defnyddir i gynnal sesiynau defnyddwyr ar gyfer y tab cymorth byw. Mae'r data'n cael ei ddileu wrth gau'r porwr. Sesiwn
language Dewisiadau Fe'i defnyddir i storio'ch dewis iaith ar gyfer y wefan. 90 Diwrnod

AWSELBCORS

Dadansoddol Defnyddir y cwci hwn gan Siteimprove ar gyfer cydbwyso llwyth gweinydd. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei storio. Sesiwn
nmstat Dadansoddol

 Defnyddir y cwci hwn i helpu i gofnodi defnydd yr ymwelydd o'r wefan. Fe'i defnyddir i gasglu ystadegau am ddefnydd y safle, megis pan ymwelodd yr ymwelydd â'r safle. Defnyddir y wybodaeth hon wedyn i wella profiad y defnyddiwr ar y wefan. Mae'r cwci hwn yn cynnwys ID a gynhyrchir ar hap a ddefnyddir i adnabod y porwr pan fydd ymwelydd yn darllen tudalen. Nid yw'r cwci yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol ac fe'i defnyddir yn unig ar gyfer dadansoddiadau gwe.

999 Diwrnod
e

Google Maps a YouTube - Mae gennym rai tudalennau sy'n cysylltu ag offer allanol fel Google Maps a YouTube. Mae'r offer hyn yn eistedd ar weinyddion gwe Google a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Bolisi Preifatrwydd Google yma.

Vimeo - Mae gennym rai tudalennau sy'n cysylltu â fideos allanol a gynhelir ar Vimeo. Mae'r rhain yn eistedd ar weinyddion gwe Vimeo a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Bolisi Preifatrwydd Vimeo yma.

Lle bynnag y bo modd, byddwn yn ymgorffori fideos ac offer eraill gan ddefnyddio dull preifatrwydd gwell i wrthod cwcis.

Sgwrsfot - Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnig ystod o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni gan gynnwys wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost a chyfryngau cymdeithasol. Ym Mawrth 2022 mi wnaethon ni lansio Mona, sgwrsfot newydd Cyngor Ynys Môn sy’n cynnig dull cysylltu i gwsmeriaid i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym a chael atebion i ymholiadau 24/7.

Mae Cyngor Ynys Môn wedi gweithio gyda chwmni technoleg o Dde Cymru, We Build Bots i ddatblygu Mona. Mae Mona yn cael ei ddiweddaru'n gyson i ateb eich cwestiynau yn well a chynnwys atebion i ymholiadau newydd. Ar hyn o bryd mae Mona yn cynnig gwybodaeth am:

  • Gysylltu
  • Y Dreth Gyngor
  • Budd-daliadau
  • Bathodyn Glas
  • Addysg
  • Canolfannau Hamdden
  • Llyfrgelloedd
  • Gwybodaeth am Deithio
  • Swyddi/ Gyrfaoedd
  • Tai
  • Newyddion
  • Cynllunio

Bydd Mona yn cael ei ehangu dros amser a'i integreiddio i'n systemau.

Mae gan Mona 2 ddull o gyfathrebu:

  1. Ymatebion awtomataidd - Ymatebion parod i gwestiynau ac ymholiadau cyffredin.
  2. Gwe-sgwrs – sgwrs dan arweiniad ymgynghorydd Cyngor Môn. Mae'r swyddogaeth hon yn galluogi ymgynghorydd i gymryd drosodd y sgwrs os na fydd y sgwrsfot yn gallu ateb eich ymholiad neu os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch.

Nid yw'r Sgwrsfot wedi'i gynllunio i ddelio â gwybodaeth gymhleth neu sensitif. Felly cynghorwn eich bod yn cysylltu â'r adrannau perthnasol i drafod y materion hyn.

Bydd hanes sgwrsio yn cael ei storio am 12 mis ar ein platfform yn ddiogel, mae'r holl ddata wedi'i amgryptio. 

Nid yw’r hanes sgwrsio yn cael ei storio yn erbyn eich enw oni bai eich bod wedi gwneud cais ar y sgwrsfot a theipio eich enw a'ch manylion cyswllt, bydd y wybodaeth cais yn cael ei hanfon at yr adran berthnasol ochr yn ochr â'ch manylion cyswllt i sicrhau bod eich cais yn cael ei gyflawni. 

Gallwch ddefnyddio'r sgwrsfot yn ddienw, yr oll sydd rhaid i chi ei wneud yw peidio â theipio unrhyw wybodaeth adnabyddadwy, fel eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni os nad oes angen gwneud hynny. 

Cofiwch na fydd y Cyngor yn gallu cydymffurfio â'ch hawliau gwrthrych data oni bai eich bod yn darparu gwybodaeth bellach sy'n egluro amser a dyddiad y rhyngweithio â'r wefan a'r pwnc a drafodwyd. Mae hyn oherwydd nad yw'r hanes sgwrsio yn cael ei storio yn erbyn enw/cofnod unigolyn.

Cylchlythyrau - Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio mewn partneriaeth â Govdelivery i alluogi ymwelwyr i'r wefan i gofrestru ar gyfer cylchlythyrau'r cyngor. Bydd gan ymwelwyr yr opsiwn i gofrestru ar gyfer detholiad o gylchlythyrau yn dibynnu ar eu diddordebau. Bydd y rhestr o gylchlythyrau sydd ar gael yn cael eu hehangu dros amser.

Cyngor Sir Ynys Môn yw rheolwr y wybodaeth bersonol rydych chi'n ei chyflwyno yma. Byddwn yn ei ddefnyddio i'ch diweddaru gyda'r pynciau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Bydd hyn yn galluogi pobl i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newyddion y maent yn teimlo sy'n berthnasol i'w diddordebau.

Wrth arwyddo, bydd angen cyfeiriad e-bost y defnyddiwr arnom, ynghyd â'r diddordebau a ddewiswyd ganddynt, ac a ydynt am dderbyn y cylchlythyrau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg neu'r iaith Saesneg.

Gall defnyddwyr reoli eu tanysgrifiadau (neu ddad -danysgrifio) ar unrhyw adeg trwy ddilyn y ddolen 'Rheoli Dewisiadau' wrth droed yr e -bost neu drwy fynd i: https://public.govdelivery.com/accounts/ukioa/subscriber/edit?preferences=true

Yna gall defnyddwyr ddileu eu cyfrif trwy glicio ar y ddolen 'Dileu fy nghyfrif' ar y dudalen uchod.

Bydd cyfeiriadau e-bost yn cael eu cadw nes bydd y defnyddiwr yn penderfynu nad yw bellach yn dymuno derbyn cylchlythyrau ac yn dilyn y camau a amlinellir uchod. 

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.