Gwybodaeth a chyngor i'ch helpu i baratoi am y gaeaf.
Gwybodaeth tywydd diweddaraf
Mae gan y Met Office y wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd a rhybuddion tywydd.
Ewch i wefan Met Office (gwefan allanol yn Saesneg)
Ymgyrch barod am y tywydd
Mae'r Met Office wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol iawn am fod yn barod ar gyfer y gaeaf ar eu gwefan.
Ewch i wefan Met Office (gwefan allanol yn Saesneg)
Mae SP Energy Networks yn darparu trydan i gartrefi a busnesau Gogledd Cymru.
Ewch i wefan SP Energy Networks (gwefan allanol yn Saesneg)
Cyngor da
- Sicrhewch fod manylion eich cyfrif ar-lein gyda SP Energy Networks yn gyfredol. Efallai y byddwch yn gallu cael negeseuon uniongyrchol i'ch dyfais symudol a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am doriad pŵer.
- Sicrhewch fod rhif ffôn llinell argyfwng 105 gennych - mae’n werth cadw’r rhif hwn ar yr oergell neu yn eich ffôn. Cofiwch adrodd am unrhyw doriad i’r cyflenwad pŵer ar unwaith a byddwn yn eich diweddaru drwy negeseuon testun neu negeseuon llais tra bod ein peirianwyr yn gweithio ar y broblem.
- Cadwch dortsh fatri neu droi’n agos - cadwch y dortsh yn rhywle hawdd ei gyrraedd er mwyn ei defnyddio i edrych ar y bocs ffiws a gwneud eich ffordd o amgylch y tŷ.
- Byddwch yn wyliadwrus o geblau pŵer sydd wedi disgyn - mae’n bosibl y bydd ceblau wedi disgyn, felly cymrwch bwyll wrth adael y tŷ. Ffoniwch 105 ar unwaith, gan gofio ei bod yn bosibl fod trydan dal yn teithio drwy’r cebl.
- Gwefrwch eich ffôn symudol - mae gwefru eich ffôn symudol yn golygu y gallwch ffonio am gefnogaeth os oes angen. Mae’n werth cael ffôn analog gan nad yw’n rhedeg ar y prif gyflenwad trydan.
- Cadwch y gwres i mewn - os byddwch yn colli cyflenwad pŵer, efallai na fydd eich gwres yn gweithio, felly defnyddiwch blancedi a chofiwch gau ffenestri a llenni i gadw’r gwres i mewn.
Cynllun ECO 4
Dyma gynllun y Llywodraeth sy'n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref megis system gwres canolog newydd, gwella'r system wresogi bresennol a/neu inswleiddio a/neu paneli solar.
Darganfod mwy am y cynllun ECO 4
Taliad Tanwydd y Gaeaf
Ewch i wefan GOV.UK (gwefan allanol)
Taliad Tywydd Oer
Ewch i wefan GOV.UK (gwefan allanol)
Cynllun Nyth
Yn eich helpu chi i wneud eich cartref yn gynhesach ac yn fwy ynni-effeithlon.
Ewch i wefan Nyth (gwefan allanol)
Age Cymru
Mae gan Age Cymru wybodaeth ddefnyddiol iawn ar eu gwefan ar gyfer cadw’n gynnes, cadw’n iach a gofalu am eich arian y gaeaf hwn.
Ewch i wefan Age Cymru (gwefan allanol)
Mae cyngor gan y GIG ar gadw'n iach yn ystod y gaeaf ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ewch i wefan Betsi Cadwaladr (gwefan allanol)
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd.
Gallwch gofrestru i gael rhybuddion llifogydd am ddim.
Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (gwefan allanol)
Yn gyffredinol, mae penaethiaid yn penderfynu a ddylai ysgol gau mewn tywydd garw.
I ddarganfod a yw eich ysgol ar gau, ewch i wefan yr ysgol neu ewch i dudalen Facebook y cyngor (does dim angen cyfrif Facebook i weld y wybodaeth).
Mae cyngor ar wefan Dŵr Cymru i baratoi eich cartref ar gyfer tywydd oerach.
Ewch i wefan Dŵr Cymru (gwefan allanol)
Mae cyngor diogelwch gaeaf ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Ewch i wefan gwasanaeth tân (gwefan allanol)
Dysgwch fwy am y rhwydwaith o leoliadau sy’n gallu cynnig croeso cynnes i bobl ar Ynys Môn sy’n wynebu heriau costau byw, trwy gynnig lle cynnes, sgwrs a phaned.
Chwiliwch am lleoedd cynnes ar wefan 'Cysylltu Sir Fôn' gan Medrwn Môn i gael rhestr o ardaloedd sy’n cynnig y gwasanaeth hwn.
Eich canolfan hamdden leol
Bydd Canolfannau Hamdden Môn Actif yn parhau i gynnig lleoedd cynnes a chawodydd am ddim yn ystod oriau agor y Canolfannau y gaeaf hwn yn:
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am goeden sydd wedi syrthio ar y ffordd.
Adrodd am broblem gyda ffyrdd neu balmentydd
Argyfyngau
If you want to report an emergency outside our working hours (our working hours are 9am to 5pm, Monday to Friday), please call the out of hours emergency phoneline on 01248 723 062