Rydym yn gyfrifol am o gwmpas 219 o finiau graean ledled Ynys Môn. Rydym wedi eu rhoi mewn llefydd lle rydym yn gwybod y gall fod problemau, megis bryniau serth, corneli siarp a chyffyrdd anodd.
Ar gais gan gyngor bwrdeistref, cyngor rhanbarth neu gyngor plwyf byddwn yn ystyried cyllido’r ddarpariaeth gychwynnol o finiau graeanu ond dim ond ar gyfer ffyrdd nad ydynt yn cael eu graeanu gan y Cyngor. Ystyrir ceisiadau ar sail blaenoriaeth ar gyfer :
- ffyrdd gyda dringfeydd serth, troadau drwg, draeniad gwael
- ffyrdd problemus, safleoedd noeth neu gyffyrdd anodd
- ffyrdd a ddefnyddir yn helaeth gan bobl hyn a thrigolion sy’n ei chael hi’n anodd symud o gwmpas neu blant ifanc iawn.
- ffyrdd mewn ardaloedd gwledig sy’n arwain at eiddo mewn mannau diarffordd
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.