Cyngor Sir Ynys Môn

Casgliad sbwriel wedi'i fethu: rhowch wybod


Pwysig

Darllenwch yr holl gynnwys ar y dudalen hon cyn i chi roi gwybod am gasgliad biniau a fethwyd.

Pob bin

Ar eich diwrnod casglu, cofiwch osod eich biniau allan cyn 7am i sicrhau eu bod yn cael eu gwagio.

Os wnaethoch chi roi eich gwastraff allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu arferol ac na chafodd y gwastraff ei gasglu erbyn 5pm, cysylltwch â’r Adain Rheoli Gwastraff cyn 12pm ar yr ail ddiwrnod gwaith yn dilyn eich casgliad arferol.

Os cafodd eich casgliad gwastraff ei fethu ar ddydd Gwener, cysylltwch â’r Adain Rheoli Gwastraff erbyn 12pm ar y dydd Mawrth canlynol er mwyn rhoi gwybod iddynt. 

Os nad ydych yn rhoi gwybod am gasgliad wed’i fethu erbyn 12pm ar yr ail ddiwrnod gwaith yn dilyn eich casgliad arferol, ni fydd eich bin, eich troli ailgylchu neu eich bin gwastraff bwyd yn cael eu casglu tan y casgliad arferol nesaf. 

Biniau gwyrdd – dim sticer, dim casgliad 

Os na fyddwch yn rhoi eich sticer newydd ar eich bin gwyrdd, ni fydd yn cael ei gasglu a’i wagio.

Bydd angen i chi ddisgwyl i’ch sticer gyrraedd drwy’r post os ydych wedi talu am y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd yn ddiweddar.

Gallwch roi gwybod am gasgliad o’ch bin gwyrdd sydd wedi’i fethu os: 

  • yw’r sticer ar gyfer eleni wedi’i arddangos yn y man cywir ar y bin ac
  • eich bod wedi rhoi eich bin allan erbyn 7am yn y man casglu arferol ac na gafodd ei gasglu erbyn 5pm a
  • nad ydych wedi ei gadael hi’n hwyrach na 12pm ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y casgliad a fethwyd (os cafodd eich casgliad bin ei fethu ar ddydd Gwener mae gennych tan 12pm ar y dydd Mawrth wedyn i roi gwybod)

Anghofio rhoi'r bin/trolibocs allan i'w gasglu

Os nad yw eich gwastraff wedi ei gasglu oherwydd eich bod heb roi’r trolibocs neu’r biniau allan i’w casglu ar yr amser neu’r diwrnod cywir, ni fydd eich biniau a’ch trolibox yn cael eu casglu tan y casgliad arferol nesaf.

System tracio ar cerbydau gwastraff

Mae systemau tracio gyda lloeren ar y cerbydau ailgylchu a chasglu gwastraff sy’n nodi pa bryd ac ar ba ddiwrnod y mae’r cerbyd wedi galw i gasglu eich biniau a’ch trolibocs.

Felly, os nad yw eich biniau a’ch trolibocs wedi cael eu rhoi allan i’w casglu pan fo’r cerbydau’n galw ar eich diwrnod casglu arferol, ni fydd hyn yn cael ei gyfrif fel casgliad a fethwyd.

Sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn rhoi eich biniau a’ch trolibocs allan i’w casglu erbyn 7am ar eich diwrnod casglu arferol fel y gellir eu casglu.

Ffyrdd eraill o gysylltu â ni

Rheoli Gwastraff
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Ffôn: (01248) 750 057

We welcome calls in Welsh and English

Ymholiadau cyffredinol am eich casgliadau bin

Am ymholiadau cyffredinol gweler Ffurflen Ymholi Rheoli Gwastraff.