Cyn dod i’r Ganolfan
Arhoswch adref os ydych yn teimlo’n sâl - peidiwch â dod i’r ganolfan os nad ydych yn teimlo’n dda neu os oes gennych Covid-19.
Dewch â phethau eich hun - os ydych yn gwneud dosbarth ffitrwydd, dewch â mat eich hun os oes gennych chi un. Yn anffodus, ni fydd modd defnyddio’r peiriannau dŵr na’r peiriannau bwyd a diod. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â dŵr eich hun efo chi
Dylech gyrraedd yn barod i wneud ymarfer corff - dylech gyrraedd yn eich dillad cadw’n heini / ffitrwydd.
Peidiwch â dod â llawer o bethau efo chi - ni fydd gennym gymaint o loceri ag arfer ar gael felly meddyliwch am faint o bethau yr ydych yn ddod gyda chi.
Trefnwch eich gweithgaredd ymlaen llaw - mae angen trefnu pob gweithgaredd ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio’r system archebu ar-lein.
Tra byddwch chi yn y ganolfan
Defnyddio gorsafoedd diheintio dwylo - fe welwch chi’r rhain cyn i chi gyrraedd y dderbynfa ac mewn gwahanol rannau o’r ganolfan.
Cofrestrwch yn y dderbynfa os ydych yn cymryd rhan mewn dosbarth - ceisiwch beidio â chyrraedd fwy na 5 munud yn gynnar a dilynwch y rheolau cadw pellter cymdeithasol pan fyddwch yn disgwyl i’r dosbarth ddechrau. Dylech gael eich cerdyn aelodaeth yn barod i’w sganio wrth fynd i mewn i’r ganolfan. Pan fydd eich sesiwn drosodd dylech adael y ganolfan cyn gynted â phosib drwy’r allanfeydd penodol.
Dilynwch yr arwyddion cadw pellter cymdeithasol - cadwch at y system unffordd a cheisiwch gadw o leiaf 2 fetr oddi wrth bobl eraill cymaint â phosib.
Golchwch eich offer a’ch matiau - gallwch wneud hyn cyn ac ar ôl eu defnyddio gyda’r cynnyrch sydd wedi’i ddarparu o amgylch y gampfa.
Gallai methu â chadw at y canllawiau newydd e.e. cadw pellter cymdeithasol, arwain at eich aelodaeth yn cael ei wahardd.
Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae er mwyn sicrhau diogelwch ein canolfannau hamdden.