Cyngor Sir Ynys Môn

Canolfan Hamdden Amlwch


Canolfan Hamdden Amlwch

Dydd Llun 8am i 9:30pm
Dydd Mawrth 8am i 9:30pm
Dydd Mercher 8am i 9:30pm
Dydd Iau 8am i 9:30pm
Dydd Gwener 8am i 8pm
Dydd Sadwrn 9am i 3pm
Dydd Sul 9am i 3pm

Mae angen trefnu pob gweithgaredd ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio’r system archebu ar-lein.

Bydd angen i chi gofrestru cyfrif ar-lein cyn gallu archebu'ch gweithgareddau ymlaen llaw.

Os ydych chi'n cael trafferth defnyddio ein system archebu ar-lein, e-bostiwch monactif@ynysmon.llyw.cymru

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn y cefndir er mwyn creu amgylchedd diogel i chi allu ymweld ag ef ac rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau.

Bydd gan bawb ran i’w chwarae er mwyn cadw ein canolfannau yn ddiogel a byddwn yn gofyn i chi gadw at reolau penodol hefyd.

Sicrhau eich iechyd a’ch diogelwch chi yw’r brif flaenoriaeth. Dyna pam yr ydym yn cyflwyno gweithdrefnau glanhau a chadw pellter cymdeithasol newydd.

Glanhau, glanweithdra a diheintio

Byddwn yn diheintio’r offer yn y gampfa drwy gydol y dydd, byddwn yn glanhau ystafelloedd newid y pwll nofio ar ôl pob sesiwn ac yn glanhau’r ganolfan gyfan bob nos. Mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant glanhau.

Bydd Aelodau yn cael eu hannog i ddiheintio eu dwylo wrth y dderbynfa, mae unedau diheintio dwylo ychwanegol wedi eu gosod mewn mannau allweddol a bydd gorsafoedd glanhau wedi eu lleoli o amgylch yr ystafelloedd ffitrwydd.

Cadw Pellter Cymdeithasol

Byddwch yn gweld arwyddion cadw pellter cymdeithasol o amgylch y ganolfan, yn ogystal ag arwyddion systemau unffordd lle bo hynny’n bosibl. Rydym hefyd yn cyfyngu nifer yr aelodau a ganiateir mewn gwahanol ardaloedd megis yn yr ystafelloedd ffitrwydd, yn y dosbarthiadau ffitrwydd, yn y pwll nofio a’r ystafelloedd newid.

Noder: ni fydd ystafelloedd newid yr ochr sych ar gael am y tro. Bydd aelodau sy’n defnyddio’r pwll nofio yn gallu defnyddio ystafelloedd newid y pwll nofio.

Dosbarthiadau ffitrwydd

Rydym yn cynnal dosbarthiadau llai er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

Dim ond dosbarthiadau penodol fyddwn ni’n eu cynnal er mwyn sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol.

Amddiffyn chi a’n timau

Rydym wedi gosod sgriniau plastic yn ein derbynfeydd a byddwn yn darparu ein staff â chyfarpar diogelu personol (PPE) os oes angen.

Cyn dod i’r Ganolfan

Arhoswch adref os ydych yn teimlo’n sâl

Peidiwch â dod i’r ganolfan os nad ydych yn teimlo’n dda neu os oes gennych Covid-19.

Dewch â phethau eich hun

Os ydych yn gwneud dosbarth ffitrwydd, dewch â mat eich hun os oes gennych chi un. Yn anffodus, ni fydd modd defnyddio’r peiriannau dŵr na’r peiriannau bwyd a diod. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â dŵr eich hun efo chi

Dylech gyrraedd yn barod i wneud ymarfer corff

Dylech gyrraedd yn eich dillad cadw’n heini/ffitrwydd.

Peidiwch â dod â llawer o bethau efo chi

Ni fydd gennym gymaint o loceri ag arfer ar gael felly meddyliwch am faint o bethau yr ydych yn ddod gyda chi.

Trefnwch eich gweithgaredd ymlaen llaw

Mae angen trefnu pob gweithgaredd ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio’r system archebu ar-lein.

Tra byddwch chi yn y ganolfan

Defnyddio gorsafoedd diheintio dwylo

Fe welwch chi’r rhain cyn i chi gyrraedd y dderbynfa ac mewn gwahanol rannau o’r ganolfan.

Cofrestrwch yn y dderbynfa os ydych yn cymryd rhan mewn dosbarth

Ceisiwch beidio â chyrraedd fwy na 5 munud yn gynnar a dilynwch y rheolau cadw pellter cymdeithasol pan fyddwch yn disgwyl i’r dosbarth ddechrau.

Dylech gael eich cerdyn aelodaeth yn barod i’w sganio wrth fynd i mewn i’r ganolfan. Pan fydd eich sesiwn drosodd dylech adael y ganolfan cyn gynted â phosib drwy’r allanfeydd penodol.

Dilynwch yr arwyddion cadw pellter cymdeithasol

Cadwch at y system unffordd a cheisiwch gadw o leiaf 2 fetr oddi wrth bobl eraill cymaint â phosib.

Golchwch eich offer a’ch matiau

Gallwch wneud hyn cyn ac ar ôl eu defnyddio gyda’r cynnyrch sydd wedi’i ddarparu o amgylch y gampfa.

Gallai methu â chadw at y canllawiau newydd e.e. cadw pellter cymdeithasol, arwain at eich aelodaeth yn cael ei wahardd.

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae er mwyn sicrhau diogelwch ein canolfannau hamdden.

Rydym wedi paratoi rhestr o atebion i gwestiynau a allai fod gennych.