Cyngor Sir Ynys Môn

Eich diwrnod bin


Darganfod eich diwrnod casglu bin

Rhowch eich cod post gyda bwlch rhwng y rhan gyntaf a’r rhan olaf. Er enghraifft, LL77 7TW.

Bydd eich blychau ailgylchu a’ch bin gwastraff bwyd yn cael eu casglu bob wythnos.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe sy’n cael ei gefnogi megis Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Rhowch eich biniau allan cyn 7am

Casgliadau dydd Gwener: rhowch eich biniau allan erbyn 6am

Mae'n rhaid i drigolion sy'n derbyn casgliadau gwastraff ac ailgylchu ar ddydd Gwener roi eu cynwysyddion allan erbyn 6am, yn hytrach na'r amser arferol o 7am, oherwydd y sefyllfa barhaus sy'n effeithio ar Bont Menai.

Bydd y trefniant dros dro hwn yn parhau bob dydd Gwener hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.

Rhowch eich biniau allan cyn 7am

Gwnewch yn siwr bod eich biniau'n cael eu rhoi allan i'w casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu.

Gall cerbydau casglu deithio llwybrau gwahanol ar adegau, felly gall yr amser y caiff eich bin a’ch ailgylchu eu casglu amrywio ar eich diwrnod casglu.

Ailgylchu ychwanegol

Rhowch ailgylchu ychwanegol wrth ymyl eich troli ailgylchu mewn bagiau plastig clir.

Mae angen bagiau ar wahân ar gyfer:

  • papur
  • caniau a phlastigau
  • gwydr
  • cardbord
Casgliad sbwriel wedi'i fethu: rhowch wybod

Ymholiadau cyffredinol

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, defnyddiwch y Ffurflen Ymholiad Cyffredinol Rheoli Gwastraff.