Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwybodaeth ariannol am eich Dreth Gyngor

Ble mae eich Dreth Gyngor yn mynd

Gofynion y Dreth Gyngor 2024/25

Yn 2024/25, mae’r Cyngor yn bwriadu gwario £242.1m (o’i gymharu â £230.9m yn 2023/24). Ar ôl cymryd i ystyriaeth ffioedd a thaliadau, ynghyd â grantiau penodol o Lywodraeth Cymru neu o lywodraeth ganolog, ceir cyllideb net o £179.7m.

Daw’r arian sydd ei angen yn rhannol o’r Dreth Gyngor ac yn rhannol drwy Lywodraeth Cymru fel Grant Cynnal Refeniw a chyfraniad o Gronfa’r Dreth Annomestig.

Mae’r tabl isod yn rhoi dadansoddiad o’r cynnydd yng nghyllideb 2024/25.

  £ mewn miliynau
Cyfanswm Gwariant Refeniw Net 2023/24 170.8
Chwyddiant a newidiadau ymrwymedig arall 14.3
Twf Gwasanaeth 3.1
Arbedion yn y Gwasanaeth -4.1
Trosglwyddiad (i) / o falansau -4.4
Cyfanswm Gwariant Refeniw Net 2024/25 179.7

Gwario Safonol

Yr Asesiad Gwariant Safonol (AGS) yw asesiad Llywodraeth Cymru o’r hyn y mae angen i Ynys Môn ei wario yn 2024/25 er mwyn darparu’r un lefel o wasanaeth ag awdurdodau unedol eraill Cymru petaent yn gwario yn unol â’u AGS. £176.5m yw’r AGS am eleni ac mae’r gyllideb net, felly, yn 101.8% o’r AGS.

Ble mae’r arian yn cael ei wario?

Gwariant Gros £242.1m

Gwasanaethau £ mewn miliynau
Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc  77.7
Gwasanaethau Oedolion 48.7
Gwasanaethau Plant 17.7
Gwasanaethau Tai 6.9
Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo 27.4
Economaidd ac Adfywio Cymunedau 10.4
Trawsnewid Corfforaethol 7.6
Adnoddau (gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Budd-dal Tai) 34.4
Busnes y Cyngor 2.3
Rheolaeth Corfforaethol 0.8
Costau Corfforaethol a Democrataidd 1.6
Ardollau* 4.9
Cyllido Cyfalaf  5.7
Amgylchiadau Annisgwyl Cyffredinol ac Arall  0.4
Trosglwyddo o gronfeydd wrth gefn -4.4

O ble daw’r £230.9m?

Cyllid £ mewn miliynau
Grantiau Penodol  48.3
Ffioedd a Thaliadau 14.1
Grant Cynnal Refeniw 102.2
Cronfa'r Dreth Annomestig 25.3
Gofynion y Dreth Gyngor 52.2

Cyllideb refeniw NET 2024/25

Gellir dod o hyd i fanylion yn Llyfr Cyllideb y Cyngor

Y balans gweithredol

Mae’r Cyngor yn cynnal balansau er mwyn cwrdd â gwariant wrth aros am incwm ac ar gyfer unrhyw eitem o wariant annisgwyl a allai fod ar frys. Rhagwelir £10m bydd balansau’r Cyngor ar 31 Mawrth 2024 a £10m ar 31 Mawrth 2025.

Cyllideb cyfalaf – buddsoddi i’r dyfodol

Nid yw’r cyngor yn gwario’i holl arian ar wasanaethau dydd i ddydd (gwariant refeniw). Defnyddir y term gwariant ‘cyfalaf’ i gyfeirio at brosiectau mawr, megis prynu tir, codi neu wella adeiladau a chaffael peiriannau a cherbydau. Mae Cyllideb Gyfalaf yr Awdurdod ar gyfer 2024/25 yn £13.8m (o’i gymharu â £24.4m yn 2023/24).

Faint fyddwch yn ei dalu

Amcangyfrifir y bydd pob £1 o’r Dreth Gyngor y bydd y Cyngor yn ei chodi ar Fand D yn creu £33,170.03.

Bydd y £1,572.30 a gyfyd y Cyngor (i eiddo sy’n cyfateb i Fand ‘D’) yn creu incwm o £52,153,328.

At hyn, rhaid ychwanegu’r Dreth Gyngor y mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi penderfynu arni, sef £349.65 (Band D) i gwrdd â’i wariant, a bydd hyn yn creu £11,597,901.

Bydd y Dreth Gyngor y penderfynodd pob Cyngor Cymuned yn y Sir arni yn codi £1,994,795 arall a cheir manylion am y Dreth hon isod a bydd, ar gyfartaledd, yn ychwanegu £60.14 at y Dreth Gyngor (Band D).

Mae’n Dilyn y bydd y Dreth Gyngor ar gyfartaledd i eiddo Band D yn y Sir hon am 2024/25 yn:

£1,572.30 + £349.65 + £60.14 = £1,982.09 ac mae hyn yn rhyw £38.12 yr wythnos.

Mae hyn yn gynnydd o 8.59% ar y Dreth Gyngor cyfartalog a oedd yn daladwy ar eiddo Band D yn 2023/24. Mae’r cynnydd yn rhan y Cyngor Sir yn 9.50% ac 4.97% yn rhan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Gellir dod o hyd i fanylion yn Bandiau prisio'r Dreth Gyngor ar gyfer Ynys Môn.

Y Dreth Gyngor - gwybodaeth esboniadol

Gellir dod o hyd i fanylion yn Eich Dreth Gyngor.

Praeseptau’r cynghorau cymuned a thref 

Cymuned Praesept
2023/24
£

Praesept
2024/25
£


Cyfatebol
Band D
£



Y dreth gyngor
Band D 2024/25
£
Amlwch 109,816.00 115,928.00 74.61 1,996.56
Biwmares 30,871.15 30,973.08 27.45 1,949.40
Caergybi 623,513.00 680,773.19 165.15 2,087.10
Llangefni 270,130.98 315,615.00 150.03 2,071.98
Porthaeathwy 137,880.00 138,585.00 92.16 2,014.11
Llanddaniel-fab 11,865.00 13,645.00 36.27 1,958.22
Llanddona 8,500.00 8,500.00 20.34 1,942.29
Cwm Cadnant 34,146.00 34,200.00 27.72 1,949.67
Llanfair Pwllgwyngyll 63,000.00 70,922.73 52.83 1,974.78
Llanfihangel Esceifiog 24,750.00 24,750.00 34.65 1,956.60
Bodorgan 12,000.00 13,200.00 27.36 1,949.31
Llangoed 22,200.00 24,750.00 35.37 1,957.32
Llangristiolus & Cerrigceinwen 8,000.00 8,000.00 12.42 1,934.37
Llanidan 15,098.49 16,457.35 37.71 1,959.66
Rhosyr 24,950.00 29,950.00 28.26 1,950.21
Penmynydd 8,500.00 8,925.00 35.28 1,957.23
Pentraeth 17,600.00 17,900.00 29.61

1,951.56

Moelfre 12,430.00 13,500.04 19.53 1,941.48
Llanbadrig 32,094.15 32,732.97 46.17 1,968.12
Llanddyfnan 10,500.00 11,000.00 20.97 1,942.92
Llaneilian 21,505.75 21,505.75 34.65 1,956.60
Llannerch-y-medd 19,674.27 21,641.69 39.96 1,961.91
Llaneugrad 4,000.00 4,000.00 20.52 1,942.47
Llanfair Mathafarn Eithaf 60,648.59 66,106.96 32.40 1,954.35
Cylch y Garn 7,000.00 8,000.00 18.72 1,940.67
Mechell 10,500.00 11,025.00 18.63 1,940.58
Rhos-y-bol 8,000.00 8,000.00 16.38 1,938.33
Aberffraw 12,000.00 12,000.00 37.89 1,959.84
Bodedern 15,000.00 14,000.00 33.03 1,954.98
Bodffordd 13,000.00 13,000.00 30.60 1,952.55
Treaddur 36,000.00 36,000.00 24.12 1,946.07
Tref Alaw 6,745.00 6,745.00 24.75 1,946.70
Llanfachraeth 8,074.00 10,000.00 41.94 1,963.89
Llanfaelog 44,000.00 44,000.00 30.60 1,952.55
Llanfaethlu 6,000.00 6,000.00 21.51 1,943.46
Llanfair-yn-neubwll 17,000.00 19,000.00 33.12 1,955.07
Y Fali 46,963.55 46,963.55 44.64 1,966.59
Bryngwran 14,500.00 14,500.00 38.88 1,960.83
Rhoscolyn 7,000.00 8,000.00 19.98 1,941.93
Trewalchmai 14,000.00 14,000.00 36.72 1,958.67

Bandiau prisio’r Dreth Gyngor

Bydd pob annedd ddomestig (tai, byngalos, fflatiau ac yn y blaen) yn ymddangos ar rhestr brisio y Prisiwr Dosbarth.

Gosodir pob annedd yn un o’r naw band yn ôl eu gwerth gyfalaf ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2004. Daeth y rhestr yma i rym ar 1 Ebrill 2005.

Mae eich bil Dreth Gyngor yn dangos band eich annedd.

Anheddau sydd wedi’u heithrio

Efallai y bydd eich eiddo wedi'i eithrio o'r Dreth Gyngor.

Disgowntiau

Efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad ar eich Dreth Gyngor.

Pobl ag anabledd

Efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad ar eich Dreth Gyngor os oes gennych anabledd.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 

Mae gan Cyngor Sir Ynys Môn Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.I’r rhai sy’n derbyn yn barod Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (yn llawn neu’n rhannol), neu wedi gwneud cais cyn diwedd Mawrth 2024, byddant yn cael eu trosglwyddo i’r cynllun gostyngiad newydd yn awtomatig. I hawlwyr newydd, bydd rhaid gwneud cais am ostyngiad tuag at y Dreth Gyngor fel a ganlyn:-

  • Cais ar-lein.
  • Dogfen Fewnbwn Awdurdod Lleol yr Adran am Waith a Phensiynau (LAID) a Gwybodaeth Cwsmer Awdurdod Lleol (LACI) lle maent yn datgan y bwriad i hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor (i hawlwyr Budd-dal Tai yn unig. Nid yw’n berthnasol i hawlwyr oedran gwaith Credyd Cynhwysol).

Rhyddhad dewisol tuag at y Dreth Gyngor

Bwriad y polisi yw galluogi'r cyngor i roi rhyddhad i'r rhai sydd yn dioddef y caledi ariannol mwyaf eithafol mewn perthynas â chostau'r Dreth Gyngor.

Apeliadau yn erbyn eich band yn unig

Gellir dod o hyd i fanylion yn Eich Dreth Gyngor.

Mae mwy o wybodaeth fanwl ar gael gan y Swyddog Rhestru, Tŷ Rhodfa, Tŷ Glas Road, Llanishen, Caerdydd, CF14 5GR, neu ffôn: 03000 505505, neu ebost: ctwales@voa.gsi.gov.uk.

Apeliadau eraill ynglŷn â’r Dreth Gyngor

Mae’n bosib hefyd i chi apelio pe credech na ddylech fod yn talu’r Dreth Gyngor, er enghraifft, am nad y chi yw’r perchennog, neu fod camgymeriad wrth gyfrifo'r bil. Petaech yn dymuno apelio, rhaid i chi, yn y lle cyntaf, ysgrifennu at y Cyngor. Cewch ragor o fanylion am y broses apelio (gan gynnwys gwybodaeth am rôl y Tribiwnlysoedd Prisio) oddi wrth eu safle we. Chewch chi ddim peidio â thalu’r Dreth Gyngor sy’n ddyledus pan fyddwch yn gwneud yr apêl. Os yw’ch apêl yn llwyddiannus, yna byddwch â’r hawl i gael ad-daliad ar y rhan honno o’r Dreth Gyngor nad oedd rhaid i chi ei thalu.

Premiwm y Dreth Gyngor

Gall y cyngor godi premiwm ar gyfradd safonol y Dreth Gyngor ar gyfer cartrefi gwag tymor hir ac ail gartrefi.

Ardrethi annomestig – gwybodaeth esboniadol

Mae’r wybodaeth isod yn esbonio rhai o’r termau a allai gael eu defnyddio mewn hysbysiad galw am dalu ardreth annomestig ac yn y wybodaeth ategol. Gellir cael gwybodaeth bellach am rwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig gan awdurdodau bilio.

Ardrethi annomestig

Mae’r ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio yn cael eu talu i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i gomisiynwyr heddlu a throsedd. Bydd eich cyngor a’ch comisiynydd heddlu a throsedd yn defnyddio eu cyfrannau o’r incwm ardrethi a ail-ddosbarthir, ynghyd ag incwm oddi wrth y rhai sy’n talu’r dreth gyngor iddynt, y grant cynnal refeniw a ddarperir gan Weinidogion Cymru a symiau penodol eraill, i dalu am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Gellir cael gwybodaeth bellach am y system ardrethi annomestig, gan gynnwys pa ryddhadau sydd ar gael, trwy fynd i safle Busnes Cymru.

Gostyngiadau trethi busnes

Rheoli Cymhorthdal

Gallai rhyddhad rhag talu trethi annomestig fod yn gyfystyr â chymhorthdal o adnoddau cyhoeddus gan awdurdod cyhoeddus. Mae’n gyfreithlon pan fo’n cael ei ddarparu yn unol â Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022, Adran 36, lle mae cyfanswm y cymorth ariannol yn fach iawn h.y. £315,000 dros gyfnod dreigl o dair blynedd ariannol yn cynnwys y rhan aeth heibio o'r flwyddyn ariannol gyfredol a'r ddwy flynedd ariannol yn union o flaen y flwyddyn ariannol gyfredol. Os ydych yn cael, neu wedi cael, unrhyw gymhorthdal a roddwyd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, neu’r ddwy flynedd ariannol flaenorol (o unrhyw ffynhonnell), dylech hysbysu’r awdurdod bilio ar unwaith gyda manylion y cymhorthdal a gafwyd. Y rheswm am hyn yw fod gofyn i'r Awdurdod uwchlwytho manylion i gronfa ddata cymhorthdal y Llywordraeth lle mae cymhorthdaliadau'n uwch na £100,000.