Mae’r Cyngor yn cydnabod yr anhawster y gallai trethdalwyr ei gael yn talu’r Dreth Gyngor o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.
Fodd bynnag, mae’r Dreth Gyngor yn ffurfio tua 30% o incwm y Cyngor, incwm a fydd yn hanfodol er mwyn ariannu gwasanaethau hanfodol dros y misoedd nesaf. Rydym felly yn disgwyl i drethdalwyr geisio parhau i dalu eu taliadau misol, fel y nodir yn eu biliau Treth Cyngor.
Os bydd trethdalwyr yn cael anhawster talu oherwydd eu bod wedi colli eu gwaith a gostyngiad mewn incwm, mae cymorth ar gael drwy’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a fyddai’n lleihau biliau unigol neu’n lleihau’r atebolrwydd i £0.
Lle nad yw trethdalwyr yn gymwys am gymorth o dan y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, maent yn cael eu hannog i gysylltu gyda'r tim Treth y Cyngor i drafod dulliau amgen o dalu cyn gynted â phosibl drwy gysylltu ar 01248 750057 neu drwy ebost: refeniw@ynysmon.gov.uk Byddai’r trefniadau amgen yn dibynnu ar amgylchiadau unigol y trethdalwr.
Os oes gennych ymholiad am eich bil Treth Cyngor neu Cyfradd Busnes darllenwch ein atebion i'r cwestiynau cyffredin.
Mae tair elfen i’ch Dreth Gyngor, sy'n mynd i:
- Gyngor Sir Ynys Môn
- Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd
- i’r cynghorau tref a chymuned
Cyngor Sir Ynys Môn sy’n gyfrifol am gasglu’r arian ar eu rhan ond mae’r heddlu a’r cynghorau tref a chymuned yn penderfynu ar eu lefelau treth eu hunain.
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at
digidol@ynysmon.gov.uk er mwyn i ni allu eich helpu.
Ystad o werthoedd |
Band |
Gwerth ddim mwy na £44,000 |
A |
Gwerth dros £44,000 ond dim mwy na £65,000 |
B |
Gwerth dros £65,000 ond dim mwy na £91,000 |
C |
Gwerth dros £91,000 ond dim mwy na £123,000 |
D |
Gwerth dros £123,000 ond dim mwy na £162,000 |
E |
Gwerth dros £162,000 ond dim mwy na £223,000 |
F |
Gwerth dros £223,000 ond dim mwy na £324,000 |
G |
Gwerth dros £324,000 ond dim mwy na £424,000 |
H |
Gwerth dros £424,000 |
I |
Cynllun cymorth costau byw
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o fesurau ehangach i helpu pobl â’r argyfwng costau byw.
Gweler mwy