Mae'r pennawd cyntaf ar y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am daliad costau byw a thaliad caledi ariannol a allai fod ar gael drwy'r cyngor a'i bartneriaid.
Mae penawdau eraill yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad gyda chostau byw.
Mae'r prif gynllun bellach wedi dod i ben.
Cynllun dewisol
Rydym wedi penderfynu y bydd cronfa’r cynllun dewisol yn cael ei defnyddio i gefnogi aelwydydd sy’n bodloni meini prawf penodol.
Dysgwch fwy am y taliad cost byw yn ôl disgresiwn
Gwefan a gefnogir gan y llywodraeth yw HelpwrArian sy’n ei gwneud hi’n haws dod o hyd i’r cyngor cywir a’r cymorth cywir am ddim, ar faterion fel dyled, budd-daliadau, pensiynau a mwy.
Ewch i HelpwrArian
Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad o un tro o £200 gan eu hawdurdod lleol er mwyn darparu cymorth tuag at dalu eu costau tanwydd.
Ewch i'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
Nyth
Os ydych yn poeni am eich biliau ynni, ffoniwch Nyth a siaradwch ag un o’u cynghorwyr cyfeillgar. Gallant gynnig cyngor diduedd am ddim ar:
- arbed ynni a dŵr
- rheoli arian
- gwneud yn siŵr eich bod ar y tariff ynni a dŵr gorau
- p’un a oes hawl gennych i gael unrhyw fudd-daliadau er mwyn cynyddu eich incwm
Ewch i wefan Nyth
Dŵr Cymru
Os ydych chi'n cael trafferth fforddio talu'ch bil, mae gan Dŵr Cymru ffyrdd i'ch helpu.
Ewch i wybodaeth cymorth Dŵr Cymru
Tenantiaid y cyngor
Os ydych yn denant cyngor ac yn cael trafferth talu eich rhent, cysylltwch â'ch Swyddog Rheoli Tai ar 01248 752 200 i drafod eich pryderon.
Rhentu preifat a morgeisi
HelpwrArian
Gwefan a gefnogir gan y llywodraeth yw HelpwrArian sy’n ei gwneud hi’n haws dod o hyd i’r cyngor cywir a’r cymorth cywir am ddim.
Ewch i HelpwrArian
Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cymorth a chyngor diduedd am ddim.
Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
Cinio ysgol
Efallai y bydd gan eich plentyn hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Darganfod mwy am brydau ysgol am ddim
Grant Datblygu Disgyblion
Gall y cynllun Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) helpu gyda:
- gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau
- dillad chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau
- gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i) Sgowtiaid, Geidiaid, Cadetiaid, crefftau ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio neu ddawns
- offer e.e. bagiau ysgol a deunyddiau ysgrifennu
- offer arbenigol pan fydd gweithgareddau cwricwlwm newydd yn cychwyn, megis dylunio a thechnoleg
- offer ar gyfer teithiau tu allan i oriau ysgol, megis dysgu yn yr awyr agored e.e. dillad glaw
- gliniaduron a thabledi (os nad yw’r ysgol yn gallu benthyg offer)
Dysgwch fwy am y Grant Datblygu Disgyblion
Dŵr Cymru a chinio ysgol am ddim
Os ydych yn deulu sy'n cael prydau ysgol am ddim a'ch bod yn cael budd-dal cymhwyso, efallai y gallwch gael hyd at £230 oddi ar eich bil dŵr blynyddol.
Os cewch:
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA)
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol
- Budd-dal Tai
- Gostyngiad Treth y Cyngor/cymorth
Ffoniwch 0800 052 0145
Dysgwch fwy ar-lein gan Dŵr Cymru
Os ydych ar incwm isel, gallech gael Gostyngiad y Dreth Gyngor i'ch helpu i dalu Treth Cyngor.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth am ostyngiadau ac eithriadau Treth Cyngor.
Ewch i Gostyngiad y Dreth Gyngor
Bydd y Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn hwyluso’r cymorth ariannol i ofalwyr di-dâl.
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr ar (01248) 370 797 neu anfonwch e-bost i help@carersoutreach.org.uk
Gwybodaeth bellach
Isod ceir manylion mudiadau gofalwyr cenedlaethol sy’n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.
Gofalwyr Cymru: Yn darparu cyngor a gwybodaeth i ofalwyr a’r gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi gofalwyr. Llinell gyngor – o ddydd Llun i ddydd Gwener: 0808 808 7777 gwefan www.carersuk.org/wales
Fforwm Cymru Gyfan: Yn darparu llais cenedlaethol i rymuso rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu. 029 2081 1120 admin@allwalesforum.org.uk gwefan www.allwalesforum.org.uk
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: Wedi ymrwymo i wella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau i ofalwyr di-dâl. 0300 772 9702 wales@carers.org gwefan www.carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/our-work-in-wales-welsh
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cydweithio ag Elusen Lluoedd Arfog y DU er mwyn cefnogi cyn-filwyr sy’n profi caledi ariannol.
Yn ddiweddar, bu’r cyngor sir sicrhau £580,000 er mwyn darparu'r Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd rhan o’r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn cefnogi cyn-filwyr lleol.
Bydd y cyllid, yn seiliedig ar angen a aseswyd, yn darparu taliad hyd at £300 fesul cartref, gyda Changen o’r SSAFA yn dosbarthu’r taliad i gyn-filwyr cymwys.
Gwneud cais
Fe ddylai cyn-filwyr sydd angen mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gysylltu â Kath Eastman drwy ffonio (01407) 861 171 neu gellir anfon neges e-bost at Kath.Eastment@Anglesey.ssafa.org.uk
Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cymorth a chyngor diduedd am ddim ar bethau fel:
- costau byw
- dyled
- cyngor arian
- budd-daliadau
- Treth Cyngor
- biliau trydan, dŵr a nwy
a mwy.
Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
Tîm Cynhwysiant Ariannol a Digidol
Mae'r tîm yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim ar amrywiaeth o faterion, megis:
- cael gafael ar wybodaeth am filiau cyfleustodau a chymorth ariannol a allai fod ar gael ar gyfer dŵr/nwy a thrydan; gan gynnwys cael mynediad at gredyd ar gyfer mesuryddion rhagdalu i'r rhai sy'n gorfod hunanynysu ac nad ydynt yn gallu ymweld â man talu
- cael mynediad i fanciau bwyd os nad oes gan rywun incwm/cynilion i brynu bwyd
- cyngor ar gyllidebu
- rhoi gwybod am unrhyw newidiadau ar Lyfryn Cofnodi Credyd Cynhwysol neu reoli hawliad Credyd Cynhwysol ar-lein
a mwy.
Darganfyddwch fwy a gwnewch apwyntiad ar-lein
Gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cymorth gyda chostau byw, megis:
- cyflwyniad
- costau byw
- tai
- cymorth ariannol
- hawlio budd-daliadau
- costau ysgol a gofal plant
- costau addysg bellach ac addysg uwch
- iechyd a lles
a mwy.
Ewch i gyngor costau byw Llywodraeth Cymru