Taliad Costau Byw
Dim y cyngor sy’n gyfrifol am weithredu’r cynlluniau yma ac nid y cyngor sy’n gyfrifol am wneud y taliad.
Dim y cyngor sy’n gyfrifol am weithredu’r cynlluniau yma ac nid y cyngor sy’n gyfrifol am wneud y taliad.
Bydd miliynau o gartrefi ledled y DU sydd â’r incwm isaf yn derbyn hyd at £1,350 gan y llywodraeth yn ystod 2023 i 2024 i helpu gyda chostau byw. Bydd yr union gyfnodau talu’n cael eu cyhoeddi’n nes at yr amser ond byddant yn cael eu hymestyn dros gyfnod hirach i sicrhau fod cymorth cyson yn cael ei gynnig trwy gydol y flwyddyn.
Yn fras, dyma fydd y taliadau ar gyfer y rhai sy’n derbyn budd-dal incwm isel neu gredydau treth:
- £301 – taliad Costau Byw Cyntaf yn ystod gwanwyn 2023 – wedi’i dalu’n barod
- £150 – taliad Costau Byw i’r Anabl yn ystod haf 2023 – wedi’i dalu’n barod
- £300 – ail Daliad Costau Byw 31 Hydref i 19 Tachwedd 2023
- £300 – pensiynwyr sy’n gymwys ar gyfer y Taliad Costau Byw – Taliad Tanwydd y Gaeaf yn ystod gaeaf 2023 i 2024
- £299 – trydydd taliad costau byw yn ystod gwanwyn 2024
Nid oes angen ymgeisio
Ni fydd angen i chi ymgeisio am y taliadau hyn, byddant yn cael eu talu gyda’r budd-dal/credyd treth.
Taliad Tywydd Oer
Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn Taliad Tywydd Oer os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol neu gymorth gyda llog morgeisi. Byddwch yn derbyn taliad os yw’r tymheredd cyfartalog yn gostwng i 0 gradd Celsius neu is am 7 diwrnod yn olynol. Bydd cynllun 2023 i 2024 yn agor ym mis Tachwedd 2023.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn y taliad yn awtomatig os ydynt yn gymwys.
Os ydych yn feichiog neu os oes gennych blentyn dan 4 oed Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn.
Cerdyn Cychwyn Iach os ydych yn derbyn budd-daliadau cymwys. Gyda Cherdyn Cychwyn Iach gallwch brynu ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun, llefrith buwch plaen, codlysiau ffres, wedi’u sychu neu mewn tun, neu fformiwla babanod wedi’i wneud o laeth buwch sy’n addas i fabanod newydd anedig, a gallwch dderbyn fitaminau am ddim.
Ewch i www.healthystart.nhs.uk neu ffoniwch 0300 330 7010.
Gallwch gysylltu â thîm cynhwysiant ariannol y cyngor hefyd ar 01248 752 284 neu anfonwch e-bost at financialinclusion@ynysmon.llyw.cymru.
Gallant wirio a ydych yn gymwys a’ch cynorthwyo i lenwi’r ffurflen ar-lein.
Byddwch yn derbyn y cerdyn yn y post os ydych yn gymwys. Gellir ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o siopau yn y DU a bydd arian yn cael ei roi ar eich cerdyn bob pedair wythnos.
Ewch yn ôl i'r brif dudalen