Beth mae prydau ysgol yn ei ddarparu
Mae’r gwasanaeth prydau ysgol, a weithredir gan Chartwells, yn cael ei ddarparu yn ystod amser cinio ym mhob ysgol, gydag egwyl ginio’n cael ei darparu mewn ysgolion uwchradd a brecwast ym mhob ysgol gynradd. Mae pryd poeth canol dydd ar gael i bob disgybl ysgol gynradd yn ddi-dâl, gyda phob disgybl o’r derbyn i flwyddyn 6 yn gymwys.
Mae Chartwells yn darparu bwydlen sy’n cydymffurfio â chydbwysedd maeth ar gyfer pob disgybl ac mae pob bwydlen yn cwrdd â’r Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, a gymeradwyir gan Reolwr Bwyd Mewn Ysgolion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
- Mae ceginau ein hysgolion yn dilyn cylch bwydlen 3 wythnos a ddylunnir gyda help CLlLC i greu prydau iach, cyffrous ac i annog ffyrdd iach o fyw. Diweddarir y bwydlenni ddwywaith y flwyddyn i sicrhau bwydlen dymhorol a phriodol ar gyfer cyfnodau’r gaeaf a’r haf.
- Mae bwydlen dau gwrs ar gael mewn ysgolion cynradd. Mae’r prif bryd yn cynnwys prif bryd poeth y diwrnod, opsiwn llysieuol, tatws trwy’u crwyn a llenwadau, ac mae pasta a saws tomato cartref ar gael.
- Mae dŵr, salad, bara wedi’i bobi’n ffres, iogwrt a ffrwyth ffres ar gael bob dydd.
Mae’r cynnig bwyd ysgolion uwchradd yn cynnwys prif bryd poeth, opsiynau llysieuol a phrydau cyflym ar gyfer ein pobl ifanc prysur. Mae ein cynnig yn parhau i gydymffurfio â maeth ac yn briodol ar gyfer y bywydau prysur y mae ein myfyrwyr yn eu byw.
Efallai y bydd rhai o’n disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Gwiriwch hyn gyda’ch ysgol neu ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim.
Buddion bwyta pryd ysgol
Gall y bwyd a’r ddiod a ddarperir mewn ysgolion wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at roi deiet cytbwys ac iach i blant a phobl ifanc a’u hannog i ddatblygu arferion bwyta da. Y nod yw cyflawni dull gweithredu ysgol gyfan tuag at fwyta’n iach ac annog agweddau iach tuag at fwyd a diod o oed ifanc. Mae hyn yn unol â’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn y Cwricwlwm i Gymru newydd.
Mae buddion eraill o gael pryd ysgol yn cynnwys:
- Arbed amser yn y bore yn peidio â gorfod paratoi cinio, a hefyd nid oes angen poeni am gadw’r bwyd yn ffres ac yn hylan tan amser cinio.
- Prydau ysgol yn cynnig llysiau, salad a ffrwythau ffres a fydd yn cyfrannu at ‘5 y dydd’ eich plentyn.
- Eistedd i lawr a bwyta gyda’i gilydd fel bwrdd yn helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a moesau bwrdd; anogir disgyblion hefyd i roi cynnig ar fwydydd newydd.
- Rydym yn cynnal dyddiau thema rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ysgol yn ogystal â chinio Nadolig dau gwrs i ddathlu ym mis Rhagfyr.
- Mae plant sy’n bwyta deiet cytbwys ac iach yn fwy tebygol o fod yn effro yn y dosbarth a bod â mwy o egni i fwynhau ffordd o fyw actif.
Disgyblion yn dod â brechdanau
Gwneir darpariaeth ar eu cyfer yn yr ysgol. Darperir dŵr tap ffres, cyfleusterau megis byrddau a chadeiriau a gwasanaethau clirio a glanhau i ddisgyblion sy’n dewis dod â’u bwyd eu hunain yn yr un modd â gwasanaeth arferol. Anogir ysgolion i adael i’r disgyblion hynny sy’n dod â phecyn bwyd eistedd gyda’r rhai sy’n cael prydau ysgol.
Cost
Y pris yw £2.60 fesul pryd mewn ysgolion uwchradd. Yn Ynys Môn rydym yn gweithredu system ddi-arian parod. ParentPay yw ein system ddewisol i gasglu taliadau prydau ysgol lle gallwch dalu am brydau, gwirio eich balans a mwy.