Gwneud cais
Gallwch wneud cais am brydau ysgol am ddim gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
        
Cymhwysedd
Ysgol gynradd
Mae pob ysgol gynradd yn Ynys Môn yn cynnig prydau ysgol am ddim. 
Os ydych ar incwm isel neu fudd-daliadau mae'n dal yn bwysig i chi wneud cais am brydau ysgol am ddim ar gyfer eich plant.
Mae hyn oherwydd os ydych yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim gallai olygu:
- mae cymorth ariannol pellach ar gael i chi gan gynnwys y Grant Hanfodion Ysgol
 
- mwy o gyllid ar gyfer ysgol eich plentyn
 
Ysgol uwchradd
Bydd angen i chi wneud cais am brydau ysgol am ddim ar gyfer yr ysgol uwchradd.
Mae’n bosib bod eich plentyn yn gymwys i ginio ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:
- Cymorth Incwm
 
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
 
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
 
- Cefnogaeth o dan Ran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
 
- Credyd Treth Plant (cyn belled nad ydych hefyd yn derbyn Credyd Treth Gwaith a bod gennych incwm blynyddol o ddim mwy na £16,190 cyn talu treth)
 
- Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn
 
- Credyd Treth Gwaith estynedig – y swm a delir i chi am 4 wythnos pan fyddwch yn gorffen bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith
 
- Credyd Cynhwysol – rhaid i’r aelwyd ennill incwm o ddim mwy na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys yr incwm yr ydych chi’n ei dderbyn drwy fudd-daliadau