Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Prydau ysgol


Mae'r gwasanaeth prydau ysgol a’r nod yw darparu i ddisgyblion bryd canol dydd sy’n atyniadol, yn faethlon ac yn rhesymol ei bris.

Y pris yw £2.20 y pryd mewn ysgolion cynradd.

Y pris yw £2.60 y pryd mewn ysgolion uwchradd.

Mae’r awr ginio hefyd yn achlysur cymdeithasol ac mae iddi arwyddocâd addysgol.

Mae bwydlenni gwasanaeth prydau bwyd Môn yn seiliedig ar argymhellion maeth adroddiadau fel NACNE (National Advisory Committee Report on Nutrition Education), ond ar yr un pryd yn cynnig y bwydydd poblogaidd. Mae amrywiaeth ar gael yn y fwydlen, rheolaeth ar y defnydd o’r bwydydd poblogaidd a dewis o fwydydd “iach” ar gael pob amser.

Mae bwydlen dau gwrs syml ar gael am bris sefydlog yn yr ysgolion cynradd. Mewn ysgolion uwchradd cynigir dewis o bryd dau gwrs, neu fyrbryd, cwrs cyntaf, neu bwdin yn unig.

Mae cinio ysgol ar gael i bob disgybl ar wahân i ddisgyblion meithrin rhan-amser.

Disgyblion sy’n dod a brechdanau

Gwenir darpariaeth yn yr ysgolion ar gyfer plant sy’n dymuno dod a’u bwyd eu hunain. Darperir cwpan, plât a dŵr ar eu cyfer.

Llefrith

Rhoddir traean peint o lefrith y dydd am ddim i

  • disgyblion dan 7 oed
  • disgyblion ysgolion arbennig
  • unrhyw ddisgybl mewn ysgol gynradd sydd angen llefrith ar dir meddygol pan fo tystysgrif wedi’i chyflwyno ar ei ran gan y Swyddog Meddygol Ysgolion

Cinio ysgol am ddim

Mae cinio ysgol am ddim ar gael ar gyfer rhai disgyblion.

Bwydlen ysgolion gynradd ac uwchradd

Gweler ffurflenni PDF bwydlenni Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Cyngor Sir Ynys Môn. Oherwydd natur y PDF isod nid yw’n hollol hygyrch i ddefnyddwyr darllenwr sgrin.