Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Thîm Gwasanaethau Cwsmer y Gwasanaethau Tai. Byddant yn gofyn cwestiynau i chi am eich sefyllfa o safbwynt tai ac yn eich cynghori ynghylch sut i gyflwyno cais am dŷ cymdeithasol.
Os ydych eisiau ymgeisio, bydd angen i chi hefyd fynychu cyfweliad opsiynau tai a darparu dogfennau i gefnogi eich cais.
Gellir cysylltu gyda Gwasanaethau Cwsmer fel a ganlyn:
- Gwasanaethau Tai, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW
- 01248 750 057
- ffurflen ar-lein
Dyma oriau agor y Gwasanaethau Tai:
- Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 8.45am a 5.05pm
- Dydd Gwener rhwng 8.45am a 5pm
Nid yw pawb yn gymwys i gael eu cofrestru ar y rhestr aros am dŷ. Rhoddir blaenoriaeth i bobl sydd ag angen am dŷ yn unol â’r Polisi Cyffredin ar gyfer Gosod Tai.
Ceir gwybodaeth bellach ynghylch pwy sy’n gymwys yn C19 y Crynodeb o’r Polisi Gosod Tai, neu yma.
Cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda os ydych angen mwy o gyngor ynghylch a ydych efallai’n gymwys i cael tŷ cymdeithasol.
Oes. Os ydych angen mwy o fanylion am y modd y caiff tai cymdeithasol eu gosod, gallwch gyfeirio at Y Polisi Cyffredin ar gyfer Gosod Tai.
Os ydych chi’n gwneud cais i gael eich cynnwys ar y Gofrestr Dai (sef y rhestr aros am dŷ cymdeithasol) a’n bod ni yn gwneud penderfyniad yr ydych yn anghytuno ag ef neu sydd, yn eich barn chi, yn anghywir, gallwch ofyn i ni ailystyried y penderfyniad. Gelwir hyn yn broses gofyn am ‘adolygiad’.
Mae’r dudalen hon yn egluro:
- Y mathau o benderfyniadau y gallwch ofyn i ni edrych arnynt eto, a
- Sut i ofyn am adolygiad
Gallwch ofyn i ni adolygu penderfyniad:
- Nad ydych yn gymwys i statws band blaenoriaeth uwch
- Nad ydych yn gymwys i gael eich cynnwys ar y Gofrestr Dai
- Y bydd eich cais yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr Dai
- Mae eich blaenoriaeth wedi cael ei gostwng
- Eich bod wedi gwrthod cynnig o dŷ
- Y dylai’r ffaith eich bod wedi gwrthod tŷ gyfrif fel un o’ch dau gynnig
Gallwch ofyn i ni hefyd adolygu:
- Eich dyddiad amser aros
- Penderfyniad ynghylch ffeithiau eich cais sy’n debygol o gael, neu sydd wedi cael, eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu a ddylid gosod llety i chi
Os ydych am i ni adolygu penderfyniad, rhaid i chi ofyn i ni ymhen 21 diwrnod o gael gwybod am y penderfyniad.
Gallwch:
- Lawrlwytho’r ffurflen ar waelod y dudalen hon, ei hargraffu, ei llenwi a’i phostio atom, neu
- Ysgrifennu neu danfon neges atom drwy ddefnyddio ein ffurflen ar lein ar y dde (bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gofyn yn glir am adolygiad ac yn dweud wrthym ba benderfyniad yr ydych yn dymuno i ni edrych arno eto)
Mae Pennod 12 y Polisi Gosod Tai Cyffredin yn cynnwys rhagor o fanylion am eich hawl i ofyn am adolygiad.
Mae gwybodaeth bersonol megis eich enw, cyfeiriad ac amgylchiadau tai wedi eu diogleu o dan y Ddeddf Diogleu Data 1998. Golyga hyn na all y Cyngor rannu’r wybodaeth yma heb eich caniatâd.
Fe ddylech, yn y lle cyntaf, drafod eich pryderon gyda’r sawl yr ydych wedi bod yn delio â nhw a dweud wrthynt beth yw’r broblem neu ofyn am gael siarad gyda’u rheolydd linell/goruchwyliwr/ goruchwylwraig.
Efallai bydd angen gwneud apwyntiad. Os ydych yn dal i fod yn anhapus gyda’r ymateb a gawsoch, gellwch ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Oni fydd y mater yn cael ei ddatrys ac os nad oes trefn apelio arall ar gael i chi, gellwch:
- Wneud cwyn ffurfiol i’r Swyddog Gofal Cwsmer. Dylech gynnwys eich enw llawn a’ch cyfeiriad, rhif ffôn/pwynt cyswllt a disgrifiad manwl o’r gwyn.
- Ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Pencoed, Pen-y-Bont yr Ogwr CF31 5JL.
Er bod y gyfraith yn gwahardd eich Cynghorydd rhag chwarae unrhyw ran yn y broses gosod tai, gallant wneud ymholiadau ysgrifenedig ar eich rhan mewn perthynas â’ch cais am dŷ OND DIM OND GYDA’CH CANIATÂD YSGRIFENEDIG CHI.
Er enghraifft, gallant sicrhau fod holl ffeithiau eich achos wedi eu cymryd i ystyriaeth pan mae eich cais yn cael ei asesu.
Os ydych ar y Gofrestr yn barod ac angen ffurflen ganiatâd gallwch lawrlwytho copi isod neu cysylltwch â’r Gwasanaethau Tai os gwelwch yn dda.
Gall eich cynghorydd wneud ymholiadau ar bapur, drwy ebost, neu’n bersonol (ar yr amod eich bod chi’n bresennol).
Os hoffech drefnu apwyntiad i drafod eich cais ac yn dymuno i’ch Cynghorydd fynychu, cysylltwch â’r Gwasanaethau Tai os gwelwch yn dda. Gweler y manylion ar y dde.