Os ydych yn ddigartref
Dylai unrhyw berson sydd yn ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartef gysylltu gyda ni ar y ffon (01248) 750 057 neu drwy ebost adrantai@ynysmon.llyw.cymru
Os ydych ar fin colli eich cartref
Os gallech golli eich cartref yn y 56 diwrnod nesaf, rhaid i ni eich helpu i gadw eich cartref neu i gael hyd i rywle arall i fyw. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y bydd gennych hawl hefyd i fyw mewn llety dros dro.
Atal
Prif nod y cyngor, wrth gwrs, yw rhwystro pobl a theuluoedd rhag bod yn ddigartref. Mae cysylltu â ni cyn gynted ag y bo modd yn rhoi’r cyfle gorau i ni eich helpu i aros yn eich cartref. Yn aml byddwn yn medru eich helpu i achub y sefyllfa, oherwydd bod ffyrdd o helpu bob amser.
Gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i gartref yn rhywle arall a sicrhau eich bod yn cael cymorth gan asiantaethau eraill, er enghraifft, os oes arnoch angen cymorth i gael budd-daliadau i dalu eich rhent, neu os ydych angen cymorth i gadw tenantiaeth.
Dylech hefyd ofyn i’r Tîm Opsiynau Tai a gofyn am help:
- os ydych yn aros gyda’ch teulu neu ffrindiau a’u bod nhw wedi gofyn i chi adael
- os yw eich landlord wedi gofyn i chi adael neu wedi bygwth rhoi rhybudd i chi adael
- os ydych yn cael anawsterau gyda’ch tenantiaeth, neu
- os gallech golli eich cartref am unrhyw reswm arall
Ymholiadau gwasanaethau cymorth
Dylai unrhyw ymholiad am wasanaeth cefnogi gael ei gyrru i SPOA@ynysmon.llyw.cymru
Rydych yn ddigartref os nad oes gennych le i fyw.
Yn ôl y gyfraith, rydych hefyd yn ddigartref:
- os nad oes gennych hawl gyfreithiol i aros ble rydych yn byw
- os oes gennych rywle i fyw ond nad ydych yn medru cael i mewn i’r eiddo
- os oes gennych rywle i aros ond na fedr rhywun arall sy’n byw gyda chi fel arfer fel rhan o’ch teulu aros yno. Neu os oes gennych rywle i aros ond na fedr rhywun arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt fyw gyda chi aros yno, er enghraifft eich plentyn/plant, partner neu ofalydd
- os oes gennych rywle i fyw ond nad yw’n rhesymol i chi aros yno. Er enghraifft, os ydych chi (neu aelod o’ch aelwyd) yn debygol o ddioddef trais, camdriniaeth neu ymddygiad bygythiol. Neu os nad ydych yn gallu fforddio eich costau tai. Neu os bydd unrhyw beth arall yn golygu nad yw’n rhesymol i chi aros yno, er enghraifft bod yr eiddo mewn cyflwr drwg iawn neu fod llawer gormod o bobl yn byw yno
- os oes gennych gwch, carafán neu gartref symudol, ond heb unrhyw le i’w cadw
Ni fedr rhai pobl gael cymorth dan y ddeddfwriaeth ddigartrefedd oherwydd eu statws mewnfudo.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gymwys i dderbyn cymorth. Mae’n debygol eich bod yn gymwys:
- os ydych yn Ddinesydd Prydeinig ac yn byw yn y DU fel arfer
- os ydych yn byw fel arfer yn y DU ac nad yw mesurau rheoli mewnfudo yn berthnasol i chi
- os ydych yn byw yn y DU fel arfer a bod mesurau rheoli mewnfudo yn berthnasol i chi ond nad yw eich hawl i aros yn seiliedig ar amodau
- os ydych wedi cael statws ffoadur o ganlyniad i gais am loches
Os byddwn yn penderfynu nad ydych yn gymwys i gael cymorth, mi fedrwn roi cyngor i chi beth bynnag, er enghraifft am yr help sydd ar gael gan asiantaethau megis Asiantaeth Ffiniau’r DU, ymgynghorwyr mewnfudo arbenigol neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bydd angen i ni weld tystiolaeth o bwy ydych a’ch cenedligrwydd, er enghraifft, eich pasport, cerdyn preswylio neu dystysgrif awdurdodi gweithiwr.
Os byddwch yn gofyn am gyngor ac yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yn y 56 diwrnod nesaf yn ein barn ni, byddwn yn asesu eich sefyllfa i benderfynu pa gymorth y mae modd i ni ei roi i chi.
Byddwn yn rhoi copi ysgrifenedig i chi o sut ydym wedi asesu eich cais a sut ydym wedi cytuno i’ch helpu. Byddwn hefyd yn dweud wrthych beth fydd angen i chi ei wneud.
Yn unol â’r gyfraith, rhaid i’n hasesiad roi sylw i rai pethau penodol, gan gynnwys:
- yr hyn yr ydych yn dymuno ei gyflawni o’n cymorth
- pa fath o lety y byddwch ei angen
- pa fath o gymorth y byddwch ei angen (os o gwbl)
- yr hyn y mae’n rhaid i’r cyngor ei wneud yn unol â’r gyfraith
Byddwn yn cytuno ar gynllun gyda chi ynghylch sut y gallwn eich rhwystro rhag bod yn ddigartref neu sut y gallwn eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw.
Mewn rhai amgylchiadau mae’n rhaid i’r cyngor ddarparu cartref dros dro ar eich cyfer (neu sicrhau bod rhywun arall yn ei ddarparu).
Bydd gennych hawl i gael llety dros dro os oes gan y cyngor reswm i gredu y gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth, yn ddigartref, ac mewn grŵp blaenoriaeth.
Nid yw tai cymdeithasol parhaol ar gael dan y weithdrefn ddigartrefedd, oherwydd bod cartrefi’r cyngor a chymdeithasau tai yn cael eu gosod dan restr aros Cofrestr Dai’r cyngor.
Oherwydd prinder tai cymdeithasol rydym yn aml yn helpu pobl i gael llety preifat. Mae’r gyfraith yn dweud y gallwn wneud hyn cyn belled â’n bod yn credu bod yr eiddo yn addas i gwrdd â’ch anghenion. Fel arfer byddwn yn trefnu llety sy’n debygol o barhau am o leiaf chwe mis.
Hyd yn oed os ydym yn penderfynu nad oes rhaid i ni ddarparu llety dros dro ar eich cyfer, mae’n rhaid i ni gymryd camau rhesymol i’ch helpu.
Bydd yr hyn y byddwn yn ei wneud yn dibynnu ar eich sefyllfa. Mae gennym hawl hefyd i gymryd yr adnoddau sydd gan y cyngor i ystyriaeth. Mae yna lawer y gallwn ei wneud fel arfer i’ch helpu i ddatrys eich problem dai.
Os bydd raid i’r cyngor ddarparu llety ar eich cyfer oherwydd eich bod yn ddigartref (gweler uchod) ein penderfyniad ni yw sut fath o lety i’w gynnig i chi ac ym mhle.
Rydym yn gwneud ein gorau i drefnu llety cyn agosed â phosib i le roeddech yn byw gynt ond nid yw hynny’n bosib bob tro.
Rhaid i ni sicrhau bod unrhyw lety a gynigir i chi yn addas. Mae enghreifftiau o’r mathau o lety yr ydym yn ei drefnu ar gyfer pobl ddigartref yn cynnwys:
- llety â chefnogaeth
- gwely a brecwast
- prydlesau preifat
- llochesi i ferched
- hostelau
Yn aml rydym yn ceisio dod o hyd i lety hunangynhwysol yn y sector rhentu preifat i bobl, yn arbennig felly os mai dyna sydd ei angen arnynt ac a fydd yn datrys eu problem dai.
Mae yna reolau cyfreithiol ynglŷn â phryd gallwn ystyried eiddo sy’n addas i gwrdd â’ch anghenion. Gallwn roi mwy o fanylion i chi am hyn dim ond i chi ofyn.
Rydych mewn grŵp blaenoriaeth os ydych chi neu aelod o’ch aelwyd:
- efo plant dibynnol
- yn feichiog
- yn fregus oherwydd oed, salwch, anabledd, neu oherwydd unrhyw reswm arbennig arall
- yn 16 neu’n 17 oed
- yn 18 i 20 oed ac mewn gofal neu’n cael eich maethu pan oeddech dan 18 oed;
- yn 18 i 20 oed ac mewn perygl y bydd rhywun yn cam-fanteisio’n rhywiol neu’n ariannol arnoch;
- yn ddigartref oherwydd trais domestig
- wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd arfog
- gyda chysylltiad lleol ag Ynys Môn ac yn fregus oherwydd eich bod wedi bod yn y carchar, yn y ddalfa neu mewn cyfleuster cadw ar gyfer pobl ifanc
- yn ddigartref oherwydd argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall
Os bydd angen i ni wneud penderfyniad ynghylch a ydych yn fregus ai peidio, bydd angen i’ch Swyddog Opsiynau Tai, fel arfer, gael gwybodaeth am eich sefyllfa, er enghraifft llythyr gan eich meddyg neu weithiwr cymdeithasol. Gallwn drefnu asesiad ar y cyd gyda’r gwasanaethau cymdeithasol.
Os nad ydych mewn grŵp blaenoriaethol mi fedrwn roi cyngor a chymorth i chi beth bynnag er mwyn eich rhwystro rhag colli eich cartref neu i’ch helpu i ddod o hyd i gartref.
Efallai y bydd gennym ddyletswydd barhaus i ddod o hyd i gartref ar eich cyfer (dan adran 75 Deddf Tai Cymru 2014), er enghraifft:
- os ydych mewn grŵp blaenoriaeth
- os ydych yn dal i fod yn ddigartref am 56 diwrnod ar ôl gofyn i ni am gymorth
- os nad ydych yn fwriadol ddigartref (gweler isod), a
- os nad yw’r Cyngor wedi datrys eich digartrefedd, er enghraifft trwy sicrhau bod gennych gartref a fydd ar gael i chi am o leiaf chwe mis cyn pen 56 diwrnod i ddod yn ddigartref
Os ydych mewn grŵp blaenoriaeth gelwn ystyried a ydych wedi creu eich digartrefedd eich hun.
Os ydych yn fwriadol ddigartref ni fydd yn rhaid i’r cyngor ddarparu cartref i chi ar sail barhaus.
Ni fydd ond rhaid i ni ddarparu cartref am gyfnod o amser a fyddai, yn ein barn ni, yn rhoi cyfle rhesymol i chi ddod o hyd i’ch cartref eich hun.
Gellir ystyried eich bod yn fwriadol ddigartref os ydych wedi colli eich llety oherwydd yr hyn yr ydych wedi ei wneud eich hun trwy:
- fynd ati’n fwriadol i wneud rhywbeth (neu i beidio â gwneud rhywbeth) a arweiniodd at golli eich cartref blaenorol
- “trefnu” i fod yn ddigartref, er enghraifft trwy ofyn i landlord roi rhybudd i chi fel bod modd i chi wneud cais fel person digartref neu am dŷ cymdeithasol
Efallai eich bod yn fwriadol ddigartref:
- os na wnaethoch dalu eich rhent, er bod eich costau tai yn fforddiadwy ac y byddech wedi medru gwneud y taliadau
- os ydych wedi colli eich cartref oherwydd eich bod wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu wedi torri rheolau eich tenantiaeth
- os nad oeddech wedi gweithredu ar gyngor a gawsoch i’ch rhwystro rhag bod yn ddigartref
Ni fyddwch yn cael eich ystyried yn fwriadol ddigartref:
- os nad oedd yn rhesymol i chi barhau i fyw yn y cartref yr ydych wedi ei golli
- os nad oedd modd i chi aros yn eich cartref diwethaf oherwydd trais neu gamdriniaeth
- oherwydd eich bod wedi colli eich cartref oherwydd rhywbeth a wnaed gan rywun arall (ac nid gennych chi) ac nid oeddech yn cytuno gyda’r hyn a wnaed gan y person arall hwnnw
Os ydym yn penderfynu eich bod yn fwriadol ddigartref ac mewn angen sy’n flaenoriaeth, ni fydd rhaid i ni ddarparu cartref dros dro i chi ar sail barhaus. Fodd bynnag, fel arfer bydd rhaid i ni ddarparu llety dros dro i chi am gyfnod rhesymol.
Os ydych yn fwriadol ddigartref byddwn dal yn medru rhoi help a chyngor i chi i’ch atal rhag dod yn ddigartref a/neu i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i dŷ.
Gallwch geisio am gymorth gennym hyd yn oed os nad oes gennych gysylltiad gydag Ynys Môn.
Os ydym yn penderfynu bod gennych angen sy’n flaenoriaeth efallai y byddwn yn edrych i weld a oes gennych gysylltiad lleol gydag ardal Ynys Môn, fel y gallwn benderfynu pa ddyletswydd gyfreithiol sydd gennym tuag atoch.
Bydd gennych gysylltiad lleol fel arfer os:
- ydych wedi byw yn Ynys Môn am 6 allan o’r 12 mis diwethaf, neu 3 allan o’r 5 mlynedd diwethaf
- oes gennych deulu agos (er enghraifft mam, tad, plant sy’n oedolion neu frawd neu chwaer) sydd wedi byw yn y sir am y 5 mlynedd diwethaf
- ydych yn gyflogedig yn y sir
- oes gennych amgylchiadau arbennig, er enghraifft triniaeth feddygol arbenigol sydd ond ar gael yn Ynys Môn
Mae’n bosib y byddwn yn cyfeirio eich achos at Gyngor arall os ydych chi neu aelod o’ch aelwyd:
- yn fwriadol ddigartref
- mewn angen sy’n flaenoriaeth
- heb gysylltiad lleol ag Ynys Môn
- os oes gennych gysylltiad lleol gydag ardal cyngor arall
- os na fyddwch mewn perygl o gael eich cam-drin mewn ardal cyngor arall pe baech yn dychwelyd yno
Hyd yn oed os nad oes gennych gysylltiad lleol gydag Ynys Môn mae’n rhaid i ni asesu eich sefyllfa a gwirio p’un a oes angen i ni ddarparu llety dros dro i chi (gweler uchod).
I ymgeisio fel person digartref cysylltwch os gwelwch yn dda â Thîm Opsiynau Tai’r Cyngor. Gallwch eu ffonio ar (01248) 752 200 neu ymweld â nhw yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni.
Os ydych yn canfod eich hun yn ddigartref tu allan i oriau swyddfa arferol, ffoniwch (01248) 750057 os gwelwch yn dda a bydd neges sydd wedi’i recordio yn rhoi manylion ein Llinell Gymorth Digartref Tu Allan i Oriau. Byddant wedyn yn gwirio a fydd rhaid darparu tŷ dros dro i chi.
Fel arfer byddwn yn rhoi cyngor i chi pan fyddwch yn cysylltu â ni gyntaf a hefyd yn trefnu apwyntiad i chi weld Swyddog Opsiynau Tai wyneb yn wyneb. Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi am eich sefyllfa, fel y gallwn eich helpu ac fel y gallwn benderfynu a oes gennym ddyletswydd gyfreithiol tuag atoch. Mae gofyn cyfreithiol i chi ddweud y gwir wrthym ac i adael i ni wybod am unrhyw newidiadau perthnasol i’ch sefyllfa.
Pe bai’n well gennych siarad â rhywun o’r un rhyw â chi, dylech sôn am hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni.
Efallai y bydd angen i ni siarad â phobl eraill ynglŷn â’ch sefyllfa, er enghraifft eich cwmni morgais, landlord(iaid) blaenorol, i:
- wirio bod yr hyn yr ydych wedi ei ddweud wrthym yn wir
- wirio beth yw achos eich problemau
- ymchwilio i’ch sefyllfa, fel y gallwn benderfynu beth sy’n rhaid i ni’n gyfreithiol ei wneud i’ch helpu, gan gynnwys er enghraifft penderfynu a ydych yn ddigartref, mewn angen sy’n flaenoriaeth neu’n fwriadol ddigartref.
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gymaint o wybodaeth ag y gallwch yn ystod eich apwyntiad. Gall hyn fod dros y ffon neu drwy apwyntiad mewn person (nid yw apwyntiad wyneb yn wyneb ar gael ar hyn o bryd). Gallwn ofyn am yr isod, er enghraifft:
- ffurf o adnabod pwy ydych chi (tystysgrif geni, trwydded yrru, pasport)
- prawf o incwm / budd-daliadau (llythyrau dyfarnu cyfredol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, cyfriflenni banc neu gymdeithas adeiladu)
- prawf preswyliad (bil nwy neu drydan, bil ffôn cartref)
- dogfennau perthnasol eraill (er enghraifft unrhyw lythyrau neu bapurau llys gan eich landlord neu fenthyciwr morgais).
Byddwn weithiau’n gofyn am ddogfennau eraill gennych, er enghraifft eich cytundeb tenantiaeth, hysbysiadau a gyflwynwyd i chi gan eich landlord ac ati.
Os ydych angen cyfieithydd, dehonglydd iaith arwyddion neu gylch wifren, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda cyn eich cyfweliad fel y gallwn drefnu hyn.
Bydd eich gweithiwr achos yn ceisio anfon copi o’i asesiad cychwynnol yn ysgrifenedig atoch o fewn 10 diwrnod o’r adeg y gwnaethoch gysylltu â ni.
Mewn rhai sefyllfaoedd penodol, mae’n rhaid i ni’n gyfreithiol adolygu sut ydym wedi asesu eich achos, er engraifft os ydych wirioneddol yn dod yn ddigartref. Os ydym yn adolygu eich asesiad byddwn yn anfon llythyr atoch i gadarnhau canlyniad yr adolygiad.
Byddwn hefyd yn dweud wrthych os ydym yn gwneud unrhyw benderfyniad negyddol ynghylch eich achos, ac yn cynnwys manylion am sut y gallwch ofyn i ni ailystyried rhai mathau penodol o benderfyniad.
Os ydym yn penderfynu bod y ddyletswydd gyfreithiol sydd gan y Cyngor tuag atoch wedi dod i ben, byddwn yn ysgrifennu atoch i adael i chi wybod. Byddwn hefyd yn cynnwys manylion ynghylch sut y gallwch ofyn i ni ailystyried ein penderfyniad.
Mae gennych hawl cyfreithiol i ofyn i’r Cyngor ailystyried mathau penodol o benderfyniad, yn cynnwys unrhyw benderfyniad sy’n nodi:
- nad ydych yn gymwys i dderbyn cymorth;
- nad yw un o’r dyletswyddau a ganlyn yn ddyledus i chi neu ei bod wedi dod i ben
- y ddyletswydd i atal digartrefedd. Mae hon yn ddyletswydd i gynorthwyo i sicrhau na fydd llety addas yn peidio bod ar gael i chi allu byw ynddo. Mae’r ddyletswydd hon yn rheidrwydd ar y Cyngor os yw’n fodlon eich bod dan fygythiad o fod yn ddigartref ac yn gymwys am gymorth
- y ddyletswydd yn y cyfamser i sicrhau llety dros dro. Mae’r ddyletswydd hon yn rheidrwydd ar y Cyngor pan fod gennym reswm i gredu y gallech fod yn ddigartref, yn gymwys i dderbyn cymorth, a bod gennych angen sy’n flaenoriaeth o bosib
- y ddyletswydd i helpu ymgeiswyr digartref i sicrhau llety. Mae hon yn ddyletswydd i helpu i sicrhau bod llety addas ar gael i chi fyw ynddo. Mae’r ddyletswydd hon yn rheidrwydd ar y Cyngor os yw’n fodlon eich bod yn ddigartref ac yn gymwys i dderbyn cymorth (y ddyletswydd “adran 73”)
- y ddyletswydd i sicrhau llety i ymgeiswyr digartref sydd mewn angen blaenoriaeth pan fo’r ddyletswydd adran 73 yn dod i ben. Mae’r ddyletswydd hon yn rheidrwydd ar y Cyngor os yw’n fodlon fod y meini prawf a restrir yn adran 75 Deddf 2014 yn berthnasol
- y cymerwyd camau rhesymol i’ch helpu i sicrhau llety yn ystod y cyfnod pan oedd gan y Cyngor ddyletswydd dan adran 73 i helpu i sicrhau y byddai llety addas ar gael i chi fyw ynddo, lle mae’r ddyletswydd adran 73 wedi dod i ben, unai oherwydd bod cyfnod o 56 diwrnod wedi dod i ben neu oherwydd i’r Cyngor benderfynu bod camau rhesymol i helpu wedi cael eu cymryd cyn i’r cyfnod 56 diwrnod dan adran 73 ddod i ben;
- bod llety a gynigwyd mewn cysylltiad ag unrhyw ddyletswydd ynghylch digartrefedd yn addas
Os ydych yn dymuno gofyn am adolygiad mae’n rhaid i chi wneud hynny o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am y penderfyniad (neu o fewn cyfnod hirach o amser os ydym yn caniatáu hynny’n ysgrifenedig).
Os nad ydych yn derbyn y llythyr penderfyniad mae modd i’r Cyngor eich trin fel rhywun sydd wedi ei dderbyn oherwydd ein bod yn rhoi’r penderfyniadau ar gael i chi eu casglu o dderbynfa’r Gwasanaethau Tai yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni.
Caiff adolygiadau eu cynnal gan uwch swyddog nad oedd ynghlwm â’r penderfyniad gwreiddiol. Fel arfer, mae’n rhaid i ni wneud penderfyniad ar yr adolygiad o fewn 8 wythnos o’r dyddiad y gwnaethoch gais am adolygiad, oni bai eich bod yn cytuno i ymestyn y cyfnod hwn.
Byddech chi, neu rywun ar eich rhan, yn cael y cyfle i ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth yr ydych yn dymuno i ni ei ystyried pan fyddwn yn gwneud y penderfyniad ar yr adolygiad.
Rydym yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniad yr adolygiad yn ysgrifenedig, ac mae gennych hawl i apelio i’r llys sirol ar y sail ein bod wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.