Cyngor Sir Ynys Môn

Gwneud cais am dŷ cymdeithasol


Mae tai cymdeithasol yn fath o dai fforddiadwy sy'n cael eu darparu gan gynghorau a chymdeithasau tai. Mae'r tai yn darparu mannau byw diogel a fforddiadwy i bobl neu deuluoedd ag incwm isel neu gymedrol.

Darperir tai cymdeithasol ar Ynys Môn gan:

  • Tai Môn (Cyngor Sir Ynys Môn)
  • Grŵp Cynefin
  • Clwyd Alyn
  • Cymdeithas Tai Gogledd Cymru

Mae gwybodaeth am Tai Teg ar gael yn nes ymlaen ar y dudalen we hon.

Mae pob tŷ cymdeithasol yn cael ei osod (ei gynnig i rywun) trwy ddefnyddio ein Polisi Cyffredin ar Osod Tai.

Gwneud cais

Rhaid i chi gael cais cyfredol ar ein cofrestr tai i gael eich ystyried ar gyfer tai cymdeithasol ar Ynys Môn.

Gall unrhyw un wneud cais am dŷ cymdeithasol.

Ni fyddwch yn gymwys i ymuno â'r rhestr aros ar gyfer tai cymdeithasol os nad oes gennych gysylltiad lleol ag Ynys Môn neu angen am dŷ sydd wedi'i gydnabod yn ein Polisi Cyffredin ar Osod Tai.

Wrth asesu eich cais, rydym hefyd yn ystyried:

  • eich amgylchiadau ariannol.
  • unrhyw berchnogaeth o eiddo ac ecwiti ynddo
  • unrhyw ymddygiad troseddol yn y gorffennol

Mae gwybodaeth am sut rydym yn gosoddyrannu tai cymdeithasol (cynnig eiddo i rywun) ar gael ar y dudalen we hon.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â Thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Tai Môn.

Dros y ffôn

01248 752 200

Online

Bydd y ffurflen hon yn cofrestru eich diddordeb mewn gwneud cais am dŷ cymdeithasol.

Yna bydd Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Tai Môn yn cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod gwaith i drafod os ydych yn gymwys a pharhau â'ch cais.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn gwneud cais am dŷ cyngor - dolen yn agor yn y tab presennol

Wyneb yn wyneb

Cyswllt Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW

Oriau agor y Gwasanaethau Tai

Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Peidiwch â ffonio nac anfon e-bost atom

Os byddwch chi'n ffonio neu'n e-bostio Gwasanaethau Tai Môn:

  • ni fyddwn yn gallu dweud wrthych lle’r ydych chi ar y rhestr aros
  • ni fyddwn yn gallu dweud wrthych ba mor hir y bydd yn ei gymryd i'ch ail-gartrefu

Cysylltir â chi

Bydd Gwasanaeth Tai Môn, neu un o'r darparwyr tai cymdeithasol eraill, yn cysylltu â chi pan fyddwch ar frig y rhestr aros.

Cysylltir â chi dros y ffôn, drwy lythyr neu e-bost.

Rydym yn ceisio prosesu cais am dŷ o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl i ni ei dderbyn.

Nid oes angen i chi gysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn.

Os nad ydych chi wedi clywed gennym ar ôl 21 diwrnod, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Tai Môn ar 01248 752 200.

Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen mwy o wybodaeth arnom ar gyfer eich cais.

Penderfyniad

Byddwn yn ysgrifennu i ddweud wrthych:

  • os ydych chi'n gymwys i ymuno â'n cofrestr tai
  • os nad ydych chi’n gymwys i ymuno â'n cofrestr tai

Apelio yn erbyn penderfyniad

Mae gennych hawl i apelio os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad.

Ffoniwch Wasanaethau Cwsmeriaid Tai Môn i ofyn am gopi o'r ffurflen apêl ar 01248 752 200.

Rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, er enghraifft:

  • newid cyfeiriad
  • eich sefyllfa ariannol (newidiadau cyflogaeth neu fudd-daliadau)
  • manylion eich cartref
  • eich manylion cyswllt
  • newidiadau i'r ardaloedd yr ydych wedi’u dewis
  • newidiadau i'ch cyflyrau meddygol

Pethau i'w gwybod ar ôl gwneud cais

Rydym yn dechrau trwy ystyried ymgeiswyr ym:

  • Mand ‘Brys’
  • Band 1
  • Band 2

a fydd yn byw yn yr eiddo i gyd

Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn wedyn yn ystyried ymgeiswyr ym Mand Brys, Band 1 a Band 2 nad ydynt yn byw yn yr eiddo i gyd ond sydd eisiau'r ystafell(oedd) (g)wely ychwanegol.

Band 3

Byddwn ond yn ystyried ymgeiswyr ym Mand 3 ar ôl mynd drwy’r broses flaenorol.

Bydd ceisiadau sydd â dyddiad amser aros cynharach yn uwch ar y rhestr o fewn eu bandiau.

Fodd bynnag, bydd unrhyw ymgeiswyr sydd â dros 5 mlynedd o gysylltiad cymunedol yn cael eu blaenoriaethu o fewn eu band waeth beth fo dyddiad yr amser aros. Bydd ymgeiswyr yn symud i fyny'r gofrestr dai wrth i ymgeiswyr eraill gael eu hailgartrefu neu eu tynnu oddi ar y rhestr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Polisi Cyffredin ar Osod Tai.

Nid yw'n broses gyflym i gael cynnig tŷ cymdeithasol ar Ynys Môn. Y rheswm am hyn yw’r galw uchel am dai cymdeithasol ar Ynys Môn.

Ni allwn roi union amser aros i chi oherwydd bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar:

  • eich band blaenoriaeth
  • pa mor hir rydych chi wedi bod yn eich band
  • p’un ai a oes gennych chi gysylltiad cymunedol â'r eiddo gwag
  • y math o eiddo sydd ei angen arnoch
  • yr ardaloedd yr ydych chi wedi’u dewis

Ni chaniateir yn gyfreithiol i gynghorwyr (aelodau etholedig) fod yn rhan o’r broses o osod tai cymdeithasol.

Mae pob tŷ a gaiff ei osod yn cael ei wneud drwy’r polisi gosod tai.

Gall cynghorwyr wneud ymholiadau ar eich rhan chi gyda'ch caniatâd ysgrifenedig. Nid yw hyn yn golygu y byddwch yn cael cynnig eiddo yn gynharach.

Os oes gennych gais cyfredol ar ein cofrestr tai, defnyddiwch ein ffurflen ganiatâd ar-lein os ydych am roi caniatâd i gynghorydd.

Nac ydi.

Nid yw Tai Môn yn gyfrifol am osod unrhyw eiddo ar gyfer ein landlordiaid tai cymdeithasol sy’n bartner.

Mae’r landlordiaid sy’n bartner yn gosod eu heiddo eu hunain yn uniongyrchol drwy ddefnyddio ein cofrestr tai.

Byddant yn cysylltu â chi'n uniongyrchol os ydych chi'n cael eich ystyried ar gyfer un o'u heiddo.

Efallai y byddwn yn gallu eich ystyried ar gyfer ystafell wely ychwanegol y mae gennych hawl iddi os ydych chi'n gallu fforddio'r rhent ychwanegol a chostau rhedeg yr eiddo.

Rhaid i chi lenwi'r adran 'incwm a gwariant' ar ein ffurflen gais yn llawn wrth wneud cais i gael eich ystyried am ystafell wely ychwanegol.

Os na wnaethoch gwblhau'r adran hon ar eich ffurflen gais, cysylltwch â'n tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid i ofyn am ffurflen incwm a gwariant.

Rhannu gwarchodaeth neu fynediad at blentyn

Mewn achosion lle mae ymgeisydd yn rhannu gwarchodaeth neu fynediad at blentyn, ni fyddwn yn gallu eu cynnwys ar y cais wrth asesu nifer yr ystafelloedd gwely, os nad ydynt yn derbyn budd-dal plant.

Os cynigir eiddo i chi, cysylltir â chi dros y ffôn neu drwy e-bost.

Felly, mae'n bwysig bod gennym eich manylion cyswllt cywir.

Byddwn yn ysgrifennu atoch os na allwn gysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost.

Ni fydd gan bob tŷ cymdeithasol lôn neu erddi.

Efallai na fydd bob dreif yn addas ar gyfer gwefrwyr cerbydau trydan.

Bydd meintiau gardd hefyd yn amrywio o’r naill eiddo i’r llall ac efallai y bydd rhai tai’n rhannu gardd.

Wrth osod tŷ, rydym ond yn ystyried:

  • maint y tŷ
  • math o dŷ
  • arwynebedd

Y rheswm am hyn yw’r galw uchel am dai cymdeithasol ar Ynys Môn.

Nid ydym yn ystyried a oes gan eiddo ddreif, maint yr ardd neu a yw'r eiddo yn addas ar gyfer gwefrydd cerbydau trydan.

Os bydd ymgeiswyr yn gwrthod eiddo oherwydd:

  • nad oes lôn
  • nad yw'r eiddo yn addas ar gyfer pwynt gwefru car trydan
  • nad oes gardd, neu fod yr ardd yn rhy fach

mae’n bosibl y bydd eu ceisiadau’n cael eu dosbarthu fel rhai a wrthodir gan eu bod yn annerbyniol.

Pan fyddwch yn cael cynnig eiddo, byddwn yn rhoi gwybod i chi y dyddiad y bydd yn barod.

Mewn rhai achosion, ni fydd yn bosibl rhoi dyddiad i chi gan y bydd ein tîm cynnal a chadw yn gweithio ar yr eiddo.

Bydd y gwaith hwn yn amrywio rhwng pob eiddo gwag. Efallai y bydd rhai’n barod yn gynt nag eraill. Yn yr achosion hyn, ni allwn gynnig i chi weld y tŷ am resymau iechyd a diogelwch.

Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i drefnu eich ymweliad, unwaith y bydd yr eiddo yn barod.

Pethau i'w gwybod ar ôl gwneud cais

Cyngor ar ddigartrefedd

Os ydych chi'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

Tai Teg

Mae Tai Teg yn cynnig gwahanol opsiynau o dai fforddiadwy, fel rhent canolradd a chynlluniau rhannu perchnogaeth, ac yn gweithredu ar wahân i'n cofrestr tai.

Gallwch gysylltu â Tai Teg drwy ffonio 03456 015 605 neu gallwch e-bostio info@taiteg.org.uk

Homeswapper

Homeswapper yw gwasanaeth cyfnewid cartrefi mwyaf y DU gyda dros 500,000 o denantiaid.

Nid yw Tai Môn yn tanysgrifio i Homeswapper. Gallwch gofrestru gyda Homeswapper  am dâl bach trwy fynd i’w gwefan. 

House Swapper Wales

Mae Cyfnewid Tai Cymru yn wasanaeth am ddim  i helpu deiliaid contract tai cymdeithasol i ddod o hyd i bobl i gyfnewid gyda nhw.

Mynd ar yr ysgol eiddo

Mae Cynllun Prynu Cartref Ynys Môn, sydd ar gael gan Gyngor Sir Ynys Môn, yn darparu cymorth ariannol i bobl nad ydynt yn gallu fforddio pris llawn cartref sydd ar werth ar y farchnad agored heb gymorth.