Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Diwygiedig


Cefndir

Rydym yn cychwyn ar y broses o adolygu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar y Cyd Gwynedd a Môn. 

Yn unol a chanllawiau cenedlaethol, mae’n rhaid i ni adolygu’r Cynllun pob pedair blynedd a pharatoi cynllun diwygiedig. Gan fod y Cynllun presennol wedi ei fabwysiadu ar 31 Gorffennaf 2017, rydym wedi paratoi adroddiad adolygu.  

Mae’r adroddiad adolygu yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd yn berthnasol i’r CDLl ar y Cyd a dod i gasgliad ynglŷn â’r math o adolygiad bydd yn cael ei ddilyn. Nid yw’n manylu ar unrhyw newidiadau y bydd yn cael eu gwneud i’r cynllun.  

Roedd yr Adroddiad Adolygu Drafft yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 6 wythnos rhwng 5 Tachwedd hyd at 20 Rhagfyr 2021

Cytunodd y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar y 10 Mawrth 2022 i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu a’i gyflwyno i Llywodraeth Cymru. 

Adroddiad Adolygu

Mae’r Adroddiad Adolygu ar gael i’w lawrlwytho:

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.

Copi caled

Ymhellach mae posib archwilio copi caled o’r ddogfen yn Cyswllt Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Cadw mewn cysylltiad

Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth gan y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd mewn perthynas â’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, cysylltwch â’r Gwasanaeth gan ddefnyddio’r manylion uchod i gael cynnwys eich manylion ar ein basdata cysylltiadau.