System Adran Gynllunio
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wrthi’n diweddaru’r system sy’n rheoli ceisiadau cynllunio, rheoliadau adeiladu a phridiannau tir. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn moderneiddio a gwella ein gwasanaeth.
Bydd y systemau i lawr am gyfnod hir, rhwng 11 Mai a 26 Mai 2026.
Bydd modd gweld ceisiadau cynllunio ar y Gofrestr Gyhoeddus Gyffredinol neu MapMôn.
Yn ystod y cyfnod hwn bydd bodd cyflwyno ceisiadau cynllunio drwy’r:
Oedi wrth brosesu ceisiadau cynllunio ac ymgynghoriadau
Yn anffodus, bydd oedi yn prosesu achosion chwiliadau swyddogol, cynllunio, cwynion gorfodaeth ac ymgynghoriadau yn ystod y cyfnod.
Mae’n bosib y bydd oedi yn ogystal wrth ymgynghori ar geisiadau cynllunio. O ganlyniad ni fydd y cyfnod statudol ar gyfer cyflwyno sylwadau yn cael ei gwtogi yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir yn ystod y cyfnod hwn.