Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn (y cynllun newydd)


Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Gorffennaf 2024.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Adroddiad adolygu

Yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd i ddod â’r cytundeb cydweithio ar faterion Polisi Cynllunio i ben ar 31 Mawrth 2023, mae Tîm Polisi Cynllunio Ynys Môn wedi cael ei sefydlu.

Mae’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar gyfer Awdurdod Cynllunio Lleol Ynys Môn wedi cychwyn. Bydd y CDLl newydd yn cwmpasu cyfnod rhwng 2024 a 2039. Mae Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd yn parhau i ddarparu’r fframwaith polisi lleol ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau cynllunio, hyd nes bydd Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn yn cael ei fabwysiadu.

Cytundeb cyflawni

Mae’n rhaid dilyn nifer o gamau statudol fel rhan o’r broses o baratoi a mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol.

Y cam cyntaf yn y broses yw paratoi Cytundeb Cyflawni. Mae’r Cytundeb Cyflawni wedi’i rannu’n ddwy ran, sef:

  • amserlen o’r camau allweddol ar gyfer paratoi’r CDLl newydd; a
  • cynllun cynnwys cymunedau sydd yn nodi sut a phryd y gall rhanddeiliaid a’r gymuned gyfrannu yn ystod y broses o baratoi’r Cynllun.

Bydd y Cytundeb Cyflawni Drafft, ynghyd â’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, am gyfnod o 6 wythnos, rhwng 23 Mai 2024 a 4 Gorffennaf 2024.

Bydd y Cytundeb Cyflawni Drafft a’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd hefyd ar gael i’w harchwilio yn y llyfrgelloedd cyhoeddus lleol a phrif swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn.

Dweud eich dweud

Sylwer, er mwyn sicrhau bod y sylwadau a dderbynnir yn cael eu ‘gwneud yn briodol’, mae’n rhaid eu cyflwyno i’r Tîm Polisi Cynllunio erbyn 5pm ar 4 Gorffennaf 2024. 

Ni fydd unrhyw sylwadau a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried. 

Darllenwch y Cytundeb Cyflawni Drafft a’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd cyn rhoi eich adborth i ni. 

Arolwg ar-lein

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn yw 4 Gorffennaf 2024.

Ewch i holiadur ar-lein - bydd y ddolen yn agor tab newydd

E-bost

Gallwch roi eich adborth i ni drwy anfon e-bost i Polisicynllunio@ynysmon.llyw.cymru

Post

Mae fersiwn PDF o'n ffurflen adborth ar y dudalen we hon. Gallwch ei argraffu, ei lenwi â llaw a'i anfon at Tîm Polisi Cynllunio, Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW

Copi papur

Mae fersiwn papur o'r arolwg hwn ar gael mewn llyfrgelloedd ar draws yr ynys ac ym mhrif swyddfa'r cyngor. Gallwch lenwi’r ffurflen bapur a naill ai mynd â hi i brif swyddfa’r cyngor yn Llangefni neu ei phostio i’r Tîm Polisi Cynllunio, Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW

Gwybodaeth bersonol y byddwn yn gofyn amdan

Bydd unrhyw sylwadau perthnasol a wneir trwy gyfwng y we, llythyr neu e-bost yn cael eu hystyried, ar yr amod bod enw llawn a chyfeiriad dilys y person sy’n gwneud y sylwadau’n cael eu cynnwys.

Os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â Thîm Polisi Cynllunio Ynys Môn gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost ⁠⁠Polisicynllunio@ynysmon.llyw.cymru ⁠neu trwy ffônio 01248 752428.

Cadw mewn cysylltiad

Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth gan y Gwasanaeth Polisi Cynllunio mewn perthynas â pharatoi’r Cynllun Datblygu Lleol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio i gofrestru eich manylion ⁠⁠Polisicynllunio@ynysmon.llyw.cymru 

Hygyrchedd

Mae dogfen y Cytundeb Cyflawni Drafft ar gael ar y dudalen hon i’w lawrlwytho. Nid ydym wedi gallu gwneud y ddogfen hon yn gwbl hygyrch.

Rydyn ni eisiau i bawb allu dweud eu dweud. Os nad ydych yn gallu darllen y ddogfen hon, anfonwch e-bost at Polisicynllunio@ynysmon.llyw.cymru i ofyn am y ddogfen mewn fformat arall.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.