Cyngor Sir Ynys Môn

Cyd-astudiaeth argaeledd tir ar gyfer tai


Mae’n ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru ymgymryd â Chyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLAS) yn flynyddol er mwyn monitro’r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai yn eu hardaloedd hwy.

Nodai Polisi Cynllunio Cymru bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod digon o dir ar gael, neu y bydd digon o dir ar gael, ar gyfer cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai.

Ceir canllawiau ar gyfer cyfrifo’r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1, “Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai”, Llywodraeth Cymru.