Cyngor Sir Ynys Môn

Yr hen fframwaith cynllunio Ynys Môn


Roedd yr hen fframwaith Polisi Cynllunio ar gyfer Ynys Môn yn cynnwys Cynllun Fframwaith Gwynedd (1993) ynghyd a Chynllun Lleol Ynys Môn (1996).

Roedd  Cynllun Fframwaith Gwynedd yn rhoi’r canllaw strategol ar gyfer datblygiad yn Ynys Môn ar gyfer y cyfnod 1991 hyd at 2006. Roedd Cynllun Lleol Ynys Môn yn dehongli’n fanylach y polisïau hynny sydd yn y Cynllun Fframwaith ac yn cael ei gefnogi gan gyfres o fapiau cynigion.

Cynllun Datblygu Unedol

Yn unol â Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, roedd yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio yng Nghymru baratoi Cynllun Datblygu Unedol (CDU) ar gyfer yr ardal Awdurdod cynllunio Lleol.

Fe gychwynnwyd ar y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Unedol ar gyfer Ynys Môn, cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus ar y ddogfen ac fe dderbyniwyd yr Adroddiad yr Arolygydd yn gysylltiedig â hynny. Fodd bynnag mewn cyfarfod o’r cyngor sir ar 1 Ragfyr 2005 penderfynwyd rhoi’r gorau i weithio ar Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (CDU) a symud ymlaen i weithio ar y Cynllun Datblygu Lleol.

Rhoddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru am y penderfyniad hwnnw, a gofynnwyd am ganiatâd i drosglwyddo a symud ymlaen i baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol fel y mae hwnnw’n cael ei gyflwyno dan y Ddeddf Cynllunio a Phrynu trwy Orfodaeth 2004.

Polisïau Cynllunio Dros Dro

Dyma’r ddau Polisi Dros Dro a gafodd eu disoldi gan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sef:

  • Safleoedd Mawr; ac
  • Clystyrau Gwledig