Cyngor Sir Ynys Môn

Adroddiad yr Arolygwr ar y Gwrthwynebiadau i'r Cynllun Datblygu Unedol (2004)


Yn dilyn yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r CDU i’w archwilio a gynhaliwyd rhwng y 3ydd o Fehefin ar 8fed o Fedi 2003 fe gyhoeddwyd adroddiad yr Arolygydd yn Gorffennaf 2004.

Fe gafwyd cyfanswm o 1231 o wrthwynebiadau i’r cynllun i’w archwilio, a 276 o wrthwynebiadau i’r newidaiadu arfaethedig, sef cyfanswm o 1507 o wrthwynebiadau. Cafodd 227 o wrthwynebiadau eu ‘tynnu’n ôl wedyn’. Fe drafodwyd 293 o wrthwynebiadau yn yr ymchwiliad, gyda’r gweddill yn cael eu trin fel sylwadau ysgrifenedig.

Yn ei adroddiad roedd yr arolygydd yn gwneud argymhellion ar bob un o’r gwrthwynebiadau a oedd yn cael eu hystyried gan y Cyngor Sir er mwyn penderfynu a oedd angen gwneud diwygiadau i’r cynllun
Yn mis Rhagfyr 2005 fe wnaeth y Cyngor Sir wneud penderfyniad i beidio â pharhau gyda’r CDU ac i beidio a chyhoeddi diwygiadau i’r cynllun.

Nodyn Canllaw - Y sefyllfa bresennol yw fod y Cyngor yn rhoi pwysau ar yr CDU a ddaeth i ben (Rhagfyr 05) fel Ystyriaeth o Bwys wrth ddelio gyda cheisiadau cyfredol. Er mwyn sefydlu beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer unrhyw baragraff / polisi neu map mewnosodiad rhaid cymeryd y camau canlynol:
1] Edrych ar y sefyllfa yn y Cynllun I’w Archwilio 2001;
2] Adolygu y Newidiadau Arfaethedig 2002 rhag ofn fod yna newid;
3] Adolygu’r Newidiadau Arfaethedig Pellach 2003 rhag ofn fod yna newid pellach;
4] Adolygu Adroddiad yr Arolygydd 2004 i weld a oedd yna argymhelliad am newid pellach neu unrhyw Newid Arfaethedig (NA) neu Newid Arfaethedig Pellach (NAP) wedi ei dderbyn (Noder: os nad oes cyfeiriad at unrhyw NA neu NAP yna mae’n bosib nad oedd yn rhan o’r ymchwiliad ond buasai’r rhain yn cael ystyriaeth gan y Cyngor yn y cynllun a ddaeth i ben (Rhagfyr 05)).

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.