Cyngor Sir Ynys Môn

Gweledigaeth, amcanion ac opsiynau (cyfnod cyn-adneuo)


Wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd mae’n hanfodol bod y materion, cyfleoedd a’r heriau y mae Ynys Môn yn eu hwynebu a chwmpas y CDLl newydd yn cael eu nodi yn gynnar yn y broses. Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi paratoi dogfen ymgynghori ar y weledigaeth, amcanion ac opsiynau er mwyn cael barn rhanddeiliaid yn gynnar yn y broses.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn nodi:

  • crynodeb o’r prif faterion, heriau a chyfleoedd y mae’r ynys yn eu hwynebu
  • fersiwn drafft, ac amcanion drafft, i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r weledigaeth ddrafft
  • amlinelliad o’r trywydd arfaethedig ar gyfer pob maes polisi allweddol
  • cyfres o opsiynau twf (cwmpasu faint o ddatblygu sydd ei angen)
  • tri opsiwn gofodol (cwmpasu lle y dylid lleoli datblygiadau)

Mae adroddiad cychwynnol ar yr arfarniad cynaliadwyedd integredig hefyd wedi cael ei baratoi sy’n cyflwyno:

  • dadansoddiad cydnawsedd o amcanion drafft y CDLl ac amcanion yr arfarniad cynaliadwyedd integredig.
  • arfarniad o’r senarios tyfiant ac opsiynau gofodol.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng Dydd Gwener 20 Chwefror 2026 a Dydd Mercher 25 Mawrth 2026.

Rhaid cyflwyno sylwadau cyn 5pm, Ddydd Mercher 25 Mawrth 2026.

Mae’r ddogfen gweledigaeth, amcanion ac opsiynau ar gael ar wefan y cyngor drwy’r porth ymgynghori.

Ewch i’r ymgynghoriad – mae’r ddolen hon yn agor mewn tab newydd - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Dyma’r dull a ffefrir ar gyfer cyflwyno sylwadau.

Copi papur

Mae copïau papur o’r ddogfen ymgynghori ar y Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau hefyd ar gael yn y lleoliadau hyn:

  • Pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni
  • Canolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni
  • Llyfrgelloedd cyhoeddus ar hyd a lled Ynys Môn

Cyswllt â ni

Ebost: polisicynllunio@ynysmon.llyw.cymru
Ffôn: 01248 751 808