Cyngor Sir Ynys Môn

Arfarniad cynaliadwyedd integredig ac asesiad rheoliadau cynefinoedd


Ymgynghori ar adroddiad cwmpasu arfarniad cynaliadwyedd integredig

Mae’r adroddiad cwmpasu’r arfarniad cynaliadwyedd integredig (ISA) ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol wedi’i ddrafftio ac ar gael ar gyfer ei ymgynghori arno.

Byddem yn gwerthfawrogi cael eich barn ynghylch yr adroddiad cwmpasu.

Mae cyfres o gwestiynau wedi eu nodi yn yr ymgynhoriad er mwyn cynorthwyo eich ymateb.

Ewch i ymgynghoriad adroddiad cwmpasu - linc yn agor mewn tab newydd - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Bydd yr ymgynghoriad yn cau 13 Awst 2025. 

Arfarniad cynaliadwyedd integredig

Bydd yr adroddiad arfarniad cynaliadwyedd integredig yn ystyried effeithiau:

  • cymdeithasol
  • economaidd
  • amgylcheddol y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd

Bydd yn ymgorffori nifer o ofynion statudol mewn un ddogfen, gan olygu bod yr asesiad o oblygiadau cynaliadwyedd y cynigion a gynhwysir yn y CDLl newydd yn fwy tryloyw a holistaidd.

Bydd yn ymgorffori’r:

  • adroddiad arfarniad cynaliadwyedd ac asesiad amgylcheddol strategol
  • asesiad o’r effaith ar yr iaith Gymraeg
  • asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb
  • elfennau o asesiad o’r effaith ar iechyd
  • nodau llesiant lleol a Chenedlaethol ac ystyriaethau eraill yn gysylltiedig â’r amgylchedd gan gynnwys;
    • Datganiad Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r
    • ddyletswydd adran 6 (cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau).

Asesiad rheoliadau cynefinoedd

O dan y rheoliadau cynefinoedd, mae’n ofynnol i’r cyngor asesu p’un a yw’r CDLl newydd yn debygol o gael effaith sylweddol ar gyflawnrwydd unrhyw safleoedd Ewropeaidd, naill ai ar ei ben ei hun, neu ar y cyd ag unrhyw gynlluniau a phrosiectau eraill. Asesiad rheoliadau cynefinoedd yw’r enw ar y broses orfodol hon a bydd yr asesiad yn cael ei gynnal trwy gydol cyfnod paratoi’r CDLl newydd.