Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Datblygu Lleol 2024 i 2039

Mae'r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Ynys Môn wedi dechrau. Bydd y CDLl newydd yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2024 a 2039. 

Yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd i ddod â’r cytundeb cydweithio ar faterion Polisi Cynllunio i ben ar 31 Mawrth 2023, bydd y CDLl newydd yn cael ei baratoi gan Gyngor Sir Ynys Môn. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol a fabwysiadwyd yn parhau i ddarparu fframwaith polisi lleol ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio, hyd nes bydd Cynllun Datblygu Lleol newydd Ynys Môn yn cael ei fabwysiadu.

Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach i baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd. 

Os ydych yn dymuno derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd wrth baratoi’r CDLl, cysylltwch â polisicynllunio@ynysmon.llyw.cymru a gofynnwch am gael cynnwys eich manylion ar y gronfa ddata cysylltiadau.