Mae’r gyfraith yn dweud fod yn rhaid i’r cyngor - fel yr awdurdod cynllunio lleol - roi cyhoeddusrwydd i bob cais am ganiatad cynllunio. Mae’r math a’r lefel o gyhoeddusrwydd yn dibynnu ar natur y bwriad yn y cais.
Yn gyffredinol, y mwya’ ydy’r datblygiad a fwriedir yna y mwya’ yw lefel y coheddusrwydd sydd ei angen. Mae rheoliadau a chyngor o’r Swyddfa Gymreig yn rhoi manylion ar y math o gyhoeddusrwydd ac ymgynghori sydd ei angen.
Chwilio a gweld ceisiadau a phenderfyniadau cynllunio
Nid oes rhaid i chi wneud sylw os nad ydych eisiau. Mae hyn yn wir hyd yn oed os y cafoch lythyr gan yr Adran Gynllunio. Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i wneud sylwadau os ydych yn dymuno. Dylech nodi fod unrhyw sylwadau a wnewch yn mynd ar ffeil y cais.
Mae ffeil y cais yn ddogfen gyhoeddus ac mae hawl gan aelodau eraill o’r cyhoedd i’w archwilio a gweld unrhyw sylwadau a wnewch chi.
- Cymeryd y cyfle i edrych ar y cais. Mae’r cais ar gael i’w weld ar ein safle wê.
- Gwnewch eich sylwadau mewn ysgrifen. Nodwch gyfeirnod y cais ar eich llythyr. Cyfeiriwch eich llythyr i: Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Adran Gynllunio, Cyngor Sir Ynys Mon, Swyddfa’r Sir, Llangefni, Ynys Mon, LL77 7TW.
- Ceisiwch wneud eich sylwadau mor fuan ag sy’n bosib’. Er y cewch wneud eich sylwadau ar unrhyw adeg, mae’n haws eu asesu fel rhan o’r cais os y cawn eu gwneud yn fuan.
- Mae’n rhaid dyfarnu ceisiadau cynllunio ar seiliau cynllunio yn unig gan dalu sylw i faterion cynllunio. Felly, mae’n rhaid i’ch sylwadau fod ar ‘faterion cynllunio’. Mater cynllunio yw ystyriaeth sy’n deillio o ddefnydd y tir.
Fe fydd y swyddog cynllunio sy’n delio a’r cais yn talu sylw i’r hyn a ddywedir ynghyd a phob sylwadau perthnasol eraill, polisiau a phob mater cynllunio perthnasol arall. Nid oes adnoddau digonol gan y Gwasanaeth Cynllunio i fynd i drafodaeth ynghylch cryfderau/gwendidau’r cais. Rhoddir sylw i’r holl ystyriaethau yn adroddiad y swyddog.
Mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau yn cael eu gwneud gan swyddogion o dan bwerau dirprwyedig. Fe fydd adroddiad yn crynhoi y penderfyniad a’r rhesymau drosto ac fe fydd rhybudd o’r penderfyniad yn cael ei yrru i’r ymgeisydd.
Os yw’r Pwyllgor Cynllunio yn gwneud y penderfyniad, fe fydd adroddiad cyhoeddus i’r cyfarfod ble y bydd Cynghorwyr ar y Pwyllgor yn ystyried a dyfarnu’r cais. Fe fydd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r sylwadau a dderbynwyd. Yn y ddau achos, fe gewch edrych ar ffeil y cais i weld beth a benderfynwyd a beth oedd y materion cynllunio perthnasol ar gyfer dod i’r penderfyniad yna.
Mae materion cynllunio yn cynnwys y canlynol:
- cydymffurfiaeth gyda’r cynllun datblygu
- dyluniad a defnydd y bwriad yn ei amgylchedd
- effaith ar olau haul neu olau dydd ar eiddo drws nesaf
- colli preifatrwydd i eiddo drws nesaf
- effaith ar barcio, traffig a diogelwch ffyrdd
- swn ac ymhariaeth gyffredinol ar eiddo drws nesaf
Nid yw materion cynllunio yn cynnwys y canlynol:
- yr hawl i olygfa
- yr hawl i olau
- diwerthu eich eiddo
- cyfamodydd sy’n effeithio eiddo
- niwsans o waith adeiladu
- anghydfod dros berchnogaeth eiddo
- cymeriad personol yr ymgeisydd
- materion moesol