Cofrestr gyhoeddus ar-lein
Gallwch chwilio ar-lein i weld ceisiadau cynllunio, ceisiadau rheoli adeiladu a phenderfyniadau gan ddefnyddio'r gofrestr gyhoeddus.
Chwilio a gweld ceisiadau a phenderfyniadau cynllunio a rheoli adeiladu
Defnyddiwch MapMôn
Gallwch chwilio am ac edrych ar geisiadau cynllunio a rheoli adeiladu ar ein cofrestr gyhoeddus gyffredinol ac ar ein map rhyngweithiol - MapMÔN – sydd hefyd yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am eich cyfeiriad chi a’r ardal o’i gwmpas.
Sut i chwilio am geisiadau cynllunio
Gallwch chwilio am geisiadau cynllunio o 1984 yn fras drwy ddefnyddio’r wybodaeth isod:
- cyfeirnod cais cynllunio – er enghraifft 49C185H
- manylion – fel ward, dyddiad dilys neu air allweddol yn y cais.
- cyfeiriad – Gallwch roi gwybodaeth rannol i mewn, er enghraifft bydd rhoi’r gair 'Newydd' i mewn yn dangos yr holl geisiadau ar gyfer Stryd Newydd a Ffordd Newydd.
- mapiau – mae ceisiadau cynllunio sy’n dyddio’n ôl i oddeutu 1947 ar gael i edrych arnynt ar ein map rhyngweithiol, MapMÔN. (Na fydd ceisiadau cynllunio hanesyddol ond yn cynnwys cyfeirnod efallai a bod y disgrifiadau ar gael yn Saesneg yn unig.)
Penderfyniadau cynllunio
Gall penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gael eu gwneud naill ai gan swyddogion neu gan gynghorwyr etholedig mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, gan ddibynnu ar natur y cais.
Mae gweddarllediad ar gael o drafodaethau diweddaraf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Beth allwch chi ei ddarganfod
Mae’r cyfleuster ar-lein yn cyhoeddi’r wybodaeth isod ar y ceisiadau a gyflwynwyd am ganiatâd cynllunio a’r cynlluniau a’r dogfennau cefnogol ynghyd â’r penderfyniad terfynol (efallai y bydd gwybodaeth wedi cael ei golygu ble mae hynny’n berthnasol).
Ni fydd y dogfennau cysylltiedig (y manylir arnynt uchod) ond ar gael ar gyfer ceisiadau sy’n ddilys o’r 14 Awst 2019. Gallwch ofyn am yr un dogfennau o geisiadau cyn 14 Awst 2019 drwy llenwi ein ffurflen ar-lein.
Bydd y Gwasanaeth yn ceisio darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn 15 diwrnod gwaith o dderbyn y cais er, yn ystod cyfnodau prysur, efallai y bydd oedi gyda phrosesu eich cais.
Nid yw’r wybodaeth gynllunio a ddangosir o angenrheidrwydd yn adlewyrchiad o hanes llawn unrhyw safle ac ni ddylid ei hystyried fel dewis arall i’r wybodaeth a geir drwy chwiliad pridiannau tir lleol ffurfiol.
Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir ac yn ddibynadwy, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na’n rhoi unrhyw sicrwydd ynghylch cywirdeb, cyflawnrwydd neu addasrwydd y wybodaeth ar gyfer ei defnyddio i unrhyw ddiben ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y modd y caiff ei defnyddio neu ei dibynnu arni.
Nid yw cofnodion rheoli adeiladu yn gofnodion cyhoeddus
Nid yw cofnodiadau rheoli adeiladu’n gofnodiadau cyhoeddus sy’n golygu nad oes gan y cyhoedd yr hawl i edrych arnynt nac ychwaith i gael gafael ar wybodaeth a gyflwynwyd dan y Rheoliadau Adeiladu. Fodd bynnag, gall perchennog eiddo neu gyfreithiwr sy’n gweithredu mewn perthynas â gwerthu’r eiddo ofyn am gael gweld cynlluniau neu gael copi o dystysgrifau cwblhau a rhybuddion o benderfyniad am ffi benodol.
Nodwch os gwelwch yn dda y caiff cofnodiadau rheoli adeiladu eu cadw am 16 o flynyddoedd a hynny’n unol â pholisi cadw cofnodiadau’r cyngor.
Hawlfraint
Caiff cynlluniau, darluniadau ac unrhyw ddeunydd arall a gyflwynir i’r awdurdod lleol eu diogelu gan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (adran 47). Ni fedrwch ond defnyddio deunydd sydd wedi cael ei lawrlwytho ac / neu ei argraffu i bwrpas ymgynghori, i gymharu ceisiadau cyfredol gyda chynlluniau blaenorol ac i siecio a yw’r datblygiadau wedi cael eu cwblhau yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd. Ni chewch wneud copïau pellach heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint ymlaen llaw.