Cyngor Sir Ynys Môn

Eithriadau ar gyfer 20mya: Yymgynghoriad cyhoeddus (ar gau 2 Mehefin 2023)


Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Mehefin 2023

Mae’r manylion ynghylch sut i ddweud eich dweud wedi’u dileu oherwydd bod yr ymgynghoriad bellach wedi cau.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 12 Gorffennaf 2022 i ostwng y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya, mae awdurdodau priffyrdd lleol wedi'u caniatáu i wneud eithriadau mewn rhai lleoliadau cyn belled â bod yn pasio meini prawf penodol a osodwyd gan Trafnidiaeth Cymru.

Eithriadau a gynigir gan Gyngor Sir Ynys Môn

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi'r eithriadau arfaethedig i'r terfyn cyflymder newydd o 20mya.

Hefyd, cewch weld gwybodaeth bellach am y lleoliadau arfaethedig ar MapDataCymru.

Dweud eich dweud

Os yr ydych am wrthwynebu cynnig yna mae’n rhaid i chi gynnwys eich rhesymau dros wneud hyn.

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ddydd Gwener 2 Mehefin 2023.

Nodyn preifatrwydd: Gwasanaeth Priffyrdd Gwastraff ac Eiddo