Cofiwch - mae cysylltu â'r cyngor ar-lein yn costio llai, gan ein helpu i ddiogelu gwasanaethau cwsmer hanfodol.
Os oes gennych ymholiad cyffredinol, sylwadau neu ganmoliaeth am Gyngor Sir Ynys Môn neu am wasanaeth y Cyngor, defnyddiwch y Ffurflen Ymholiad Cyffredinol.
Gallwch gyflwyno ymholiad cyffredinol yn ddienw.
Os yr hoffech i ni'ch diweddaru ynglŷn â'r cais yma yn y dyfodol, neu eisiau uwchlwytho ffeil perthnasol i'ch cais, rydym yn argymell i chi fewngofnodi i Fy Nghyfrif.
I greu cyfrif gyda ‘Fy Nghyfrif’, gweler y wybodaeth isod.
Ffurflen ymholiadau cyffredinol neu sylwadau
Creu cyfrif
Crëwch gyfrif gyda’n porth ar-lein ‘Fy Nghyfrif’ i archebu biniau newydd, talu biliau ar-lein a llawer mwy.
Bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriad e-bost i greu cyfrif diogel i gyflwyno eich ymholiad.
Bydd angen i chi hefyd gytuno gyda’n telerau ac amodau, sy’n rhoi caniatâd i ddal a defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisïau preifatrwydd a diogelu data.
Cofrestrwch gyda Fy Nghyfrif - Porth arlein
Er mwyn ein galluogi ni gwrdd ȃ’r galw, gofynwn yn garedig i chi gysylltu gyda ni drwy’r cyfeiriad ebost priodol yn y lle cyntaf - gweler manylion uchod.
Fodd bynnag, os oes angen cymorth dros y ffôn, cysylltwch gyda ni ar brif rif ffon y Cyngor 01248 750 057 a gwrandewch ar yr opsiynau sydd ar gael.
Os ydych angen siarad â rhywun wyneb yn wyneb, ffoniwch 01248 750 057 a dewis opsiwn 9 ac yna opsiwn 1 i drefnu apwyntiad ag un o ymgynghorwyr Cyswllt Môn.
Mae’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau bellach ar gael ar-lein, neu anfonwch neges e-bost at cyswlltmon@ynysmon.gov.uk
Ewch i dudalen Cyswllt Môn am wybodaeth pellach.
Os wnewch alw pan fydd Cyswllt Môn ar gau byddwch yn clywed neges sy'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a rhifau ffôn argyfwng. Rydym ar gau yn ystod gwyliau cyhoeddus y DU.
Mae rhifau ffôn argyfwng ar gyfer y tu allan i oriau swyddfa arferol, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus, ar gael ar gyfer y gwasanaethau canlynol:
Priffyrdd: 01248 723062
Tai: 08081 68 56 52
Gwasanaethau Cymdeithasol: 01248 353551
Galw Gofal: 0300 1236688
Defnyddio dyfais symudol?
Beth am lawr lwytho AppMÔN?
Mae ap newydd, diogel a hollol ddwyieithog y Cyngor Sir yn ei gwneud yn hawdd gofyn am wasanaethau neu roi gwybodaeth am broblemau ar unrhyw adeg neu o unrhyw le gan ddefnyddio eich ffôn clyfar neu dabled. P’un a ydych eisiau rhoi gwybod i ni am olau stryd ddiffygiol neu dwll yn y lôn, gweld pa ddigwyddiadau sydd ar gael yn lleol neu ofyn am flychau ailgylchu newydd, gellwch wneud hyn ar AppMÔN dim ond wrth bwyso botwm.
Gellir ei lwytho i lawr yn gyflym ac yn rhad ac am ddim o ‘Apple iTunes store’ ar gyfer ‘iPhones’, a ‘Google Play store’ ar gyfer ffonau clyfar Android.
A fyddech cystal os gwelwch yn dda â defnyddio’r termau chwilio, appmôn, AppMÔN, appmon, ynysmon, cyngor sir ynys mon neu isle of anglesey county council wrth chwilio am yr app yn yr ‘appstore’ perthnasol.
Os nad oes gennych gyfeiriad post uniongyrchol y gwasanaeth yr hoffech gysylltu â hi (rhestrir y cyfeiriadau post ar dudalennau cyswllt y gwasanaeth unigol neu ar filiau neu lythyrau a anfonwn), ysgrifennwch at y prif gyfeiriad post yn:
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Defnyddiwch ein Chwiliad Safle ar frig pob tudalen i ddarganfod y gwasanaeth rydych ei angen. Cofiwch ddyfynnu unrhyw rifau cyfeirio / enwau staff perthnasol yr ydych yn delio â nhw.
Gofynnir i newyddiadurwyr beidio â chysylltu ag adrannau unigol. Bydd ein Swyddfa Wasg yn falch i'ch cynorthwyo a threfnu i lefarydd priodol fod ar gael i chi ar 01248 752130 neu 01248 752128 Rydym yn croesawu galwadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Byddwch yn ymwybodol, os gwelwch yn dda, y gall y Cyngor gymryd fwy o amser nag arfer i ymateb i lythyrau neu gwynion, o ganlyniad i brinder staff ac ymateb y Cyngor i Corvid-19.
Diolch i chi am eich dealltwriaeth.
Gwneud cwyn swyddogol
Fel arfer, gellir ymdrin â chwynion yn y fan a'r lle trwy gael gair gyda'r person sy'n darparu'r gwasanaeth. Gallai hyn fod yn dderbynnydd, staff yn y ganolfan hamdden leol, gyrrwr fan neu bobl ffordd. Os na ellir setlo'ch problem yno, gallwch wneud cwyn swyddogol.
Sylwch fod yna weithdrefn gwyno ar wahân ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.
Rhaid gyflwyno ceisiadau am wybodaeth tryw’r post i’r Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol (Adain Gyfreithiol) neu gellir danfon eich cais drwy ddefnyddio ein ffurflen arlinell.