Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Y Gymraeg ar Ynys Môn

Mae’r Gymraeg yn iaith fyw ar Ynys Môn. Gyda dros hanner poblogaeth yr ynys yn siarad Cymraeg, mae’r iaith yn fyw yn y cartref, yn y gweithle, ac yn ein cymunedau. Mae’r Gymraeg wedi cael ei defnyddio yma ers dros ddwy fil o flynyddoedd ac yn dal i gael ei defnyddio bob dydd gan bobl o bob oed. Mae hyn yn gwneud Ynys Môn yn un o gadarnleoedd y Gymraeg.

Yn ogystal â’n dyletswydd i gynnig gwasanaeth Cymraeg, rydym yn benderfynol o sicrhau bod yr iaith yn ffynnu yma. Mae’n bwysig felly bod digon o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol, yn y gwaith, mewn busnesau ac mewn gweithgareddau hamdden. Rydym hefyd am sicrhau bod trigolion newydd yn ymwybodol o ddiwylliant arbennig yr ynys a bod cyfleoedd ar gael iddynt ddysgu Cymraeg.

Trwy gyd-weithio i greu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ar Ynys Môn ein nod yw cyfrannu at weledigaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.