Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Enwau lleoedd, strydoedd a thai


Mae defnyddio enwau Cymraeg a chadw enwau hanesyddol yn rhan bwysig o warchod hunaniaeth ieithyddol arbennig ein hynys. 

Enwau lleoedd ar Ynys Môn

Mae gan Ynys Môn gyfoeth o enwau lleoedd. Mae’r rhestr hon yn cofnodi enwau swyddogol lleoliadau a nodweddion o fewn cymunedau’r sir.

Enwau lleoedd ar Ynys Môn - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Dolenni defnyddiol

Enwi strydoedd a rhifo eiddo

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithredu fel yr Awdurdod Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo, yn gyfrifol am enwi a rhifo strydoedd ac adeiladau o fewn ei ardal.

Bydd yn gwneud y swyddogaethau hyn o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Cyhoeddus 1925, adrannau 17 -19.

Darganfod mwy - bydd y ddolen yn agor tab newydd