Beth ydi Fforwm Iaith Ynys Môn
Mae Fforwm Iaith Ynys Môn yn grŵp o sefydliadau sy’n cydweithio i hybu a diogelu’r Gymraeg ar Ynys Môn. Cafodd ei sefydlu yn 2014 gan Gyngor Sir Ynys Môn mewn partneriaeth â Menter Môn.
Beth mae’r fforwm yn ei wneud
Mae’n dod â chyrff addysg, iechyd, diwylliant, gwasanaethau brys, a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i rannu syniadau, cynllunio prosiectau, a chydweithio ar fentrau sy’n cryfhau defnydd o’r Gymraeg yn lleol.
Un o fentrau’r fforwm yw’r ap OgiOgi a ddatblygwyd i gefnogi rhieni prysur. Mae’n cynnwys gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau lleol, a chyngor ar sut i gyflwyno’r Gymraeg i blant ifanc.
Aelodau
Mae aelodau’n cynnwys:
- Prifysgol Bangor
- Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol
- Grŵp Llandrillo Menai
- Mudiad Meithrin
- Yr Urdd
- Heddlu Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Grŵp Cynefin ... a llawer mwy
Pam mae’n bwysig
Mae’r fforwm yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chefnogi’n weithredol ar draws sawl maes – o addysg i wasanaethau cyhoeddus – gan greu amgylchedd lle mae’r iaith yn gallu ffynnu. Mae ei flaenoriaethau’n cynnwys:
- Teuluoedd a throsglwyddo iaith
- Addysg
- Pobl ifanc a chymunedau
- Llefydd gwaith
Sut allwch chi gymryd rhan neu gysylltu
Gallwch gysylltu â’r fforwm drwy e-bostio cymraeg@ynysmon.llyw.cymru neu ymweld â’i gyfrif Facebook.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.