Os ydych yn ddatblygwr stad fawr, dylech gysylltu â ni mor fuan â phosibl, gorau oll cyn i chi ddechrau’r gwaith ar y safle ac yn ddelfrydol cyn bod enw answyddogol wedi ei greu, i farchnatu neu bod dogfennau cyfreithiol wedi’u drafftio fel y gallwn brosesu’r gwaith o enwi unrhyw strydoedd newydd a rhifo eich eiddo newydd heb oedi.
Pe bai cais yn cael ei gyflwyno yn hwyr ac yn cael ei wrthod wedi hynny, fe all nifer o broblemau godi, yn arbennig os yw prynwyr wedi prynu eiddo wedi’u marchnata o dan enw nad oedd wedi’i gymeradwyo.
Cynghorir chi yn gryf iawn felly i fod yn wyliadwrus iawn yn y defnydd o enwau i farchnata eich datblygiad newydd oherwydd pe bai’n methu â chyfarfod y meini prawf penodol ni fydd yn derbyn cymeradwyaeth y cyngor, ac ni fydd felly yn cael ei gadw fel rhan o’r cyfeiriad.
Dylai unrhyw wybodaeth a ddosberthir i ddarpar brynwyr nodi’n glir na fydd yr enw marchnata o angen rhaid yn ffurfio rhan o gyfeiriad yr eiddo. Mae’r cyngor yn cadw’r hawl ym mhob amgylchiad i newid enw marchnata gydag enw stryd o’i ddewis.
Nodwch os gwelwch yn dda: Bydd yn rhaid i enwau strydoedd newydd gydymffurfio â polisi ar enwi a rhifo strydoedd a thai y cyngor, sy’n dweud ym mharagraff 5.3 “Lle enwir strydoedd neu ystadau newydd, bydd yr enwau newydd yn cael eu seilio ar enwau cynhenid, hanesyddol yr ardal yn Gymraeg. Pan fo’n rhaid bathu enw newydd, gwneir hynny’n Gymraeg yn unig”. Ni fydd enwau nad ydynt yn cydymffurfio â’r angen rhaid hwn yn cael eu derbyn.
Wedi i ni gael enw y cytunir arno byddwn wedyn yn cofrestru enw(au)’r stryd ac yn paratoi rhestr rifo. Bydd y wybodaeth wedyn yn cael ei hanfon i’r Post Brenhinol, cyfleustodau cyhoeddus, y gwasanaethau argyfwng, Y Gofrestrfa Dir, Arolwg Ordnans a gwasanaethau perthnasol y cyngor.
Byddwn hefyd yn anfon copi i chi o’r rhestr enwi a rhifo (all gynnwys y cod post a ddyrannwyd gan y Post Brenhinol), a byddwn yn gofyn i chi hysbysu pob un o’ch
prynwyr tebygol o gyfeiriad eu heiddo newydd. Lle y bo’n briodol, gofynnir i chi ddarparu platiau enwau stryd newydd yn unol â’n dyluniad a’n manyleb safonol.
Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.