Cwrs: Diogelu Cyffredinol Plant ac Oedolion
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Mawrth 2021
Amser: 09:30 - 16:30
Lleoliad: Zoom
Amlinelliad y Cwrs
Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi’r cyfle i’r sawl sy’n mynychu:
- Fod yn ymwybodol o’u rôl eu hunain mewn perthynas â diogelu oedolion a phlant a phobl ifanc rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
- Deall sut y caiff unigolion eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- Gwybod sut i adnabod gwahanol fathau o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
Amcanion y Cwrs
Mae’r cwrs wedi ei gynllunio er mwyn cyfleu nifer o werthoedd ac egwyddorion craidd ym maes diogelu unigolion a rhoi gwybodaeth sylfaenol i staff am sut i ymateb i achosion o gam-drin ac esgeuluso
Cynulleidfa: Aml asiantaeth - i rai sydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion
Hyfforddwr: Y Bont
Iaith: Dwyieithog
Byddwch yn derbyn cadarnhad ffurfiol os oes lle wedi ei gadw ichi ar y cwrs
Darperir yr hyfforddiant yma fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Gofal Cymdeithasol, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn
Lawrlwytho Ffurflen Gais Yn ol i'r dudalen Digwyddiadau