Ynys Môn Dementia Gyfeillgar
Ein nod yw creu Ynys Môn sydd yn ddementia gyfeillgar. Bydd yn creu Ynys Môn sy’n lle gwell i bobl sy’n byw â dementia, eu gofalwyr, a’u teuluoedd.
Bydd y prosiect Ynys Môn Dementia Gyfeillgar yn gweithio gyda chymunedau lleol i wireddu cyfres o weithredoedd fydd yn mynd i’r afael â blaenoriaethau a nodwyd yn lleol.
Mae'r blaenoriaethau hyn yn cynnwys gweithio gyda gwahanol gymunedau trwy nodi’r ardaloedd yn eu cymunedau lle mae angen cyfleuster neu adeilad cymunedol dementia gyfeillgar a byddwn yn adnabod unigolion a fyddai’n hoffi mynychu sesiwn ymwybyddiaeth ar ddementia. Bydd y prosiect yn cynnwys gweithio gyda gwahanol sefydliadau a busnesau, ynghyd â gweithio gyda grwpiau strategaeth a gwirfoddolwyr trwy gwblhau tasgau amrywiol, gweithio ar wahanol brosiectau a gweithio ar y cyd i greu Ynys Môn sydd yn ddementia gyfeillgar.