Mae Dementia Actif Môn yn helpu pobl sy'n byw gyda dementia.
Mae hyn yn cynnwys teulu a gofalwyr. Mae'r cynllun yn rhoi mynediad i raglenni ymarfer corff dan oruchwyliaeth o ansawdd uchel sy'n helpu i wella iechyd a lles.
Mae'r ymarferion yn hwyl ac yn rhoi boddhad. Gallant ddod yn rhan o fywyd bob dydd.
Ariennir Cynllun Dementia Actif Môn gan Gyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru, trwy Gronfa Gofal Integredig Rhanbarthol Cymru.
Digwyddiadau corfforaethol
Gweithgareddau Dementia Actif Môn
Mae ystod eang o weithgareddau, sef:
- seiliedig yn y gampfa
- seiliedig ar ddosbarth
- rhaglenni cartref/rhithwir
- sesiynau cymdeithasol, gan gynnwys garddio a gweithgareddau i ofalwyr
Mae'r gweithgareddau ar gael i chi am 16 wythnos.
Amserlen
Medi i Rhagfyr 2026
Dementia Actif Môn Timetable
| Diwrnod | Amser | Dosbarth | Lleoliad |
| Dydd Llun |
10:30 to 12pm |
Clwb paned, sgwrs a gweithgareddau |
Lolfa Cymunedol, Maes William Williams, Amlwch |
| Dydd Llun |
1:30 to 3pm |
Hwb Benllech |
Benllech Community & Ex Servicemans Hall |
| Dydd Mawrth |
10am to 12pm |
Grŵp Llangoed |
Lolfa Cymunedol, Pont Y Brenin, Llangoed |
| Dydd Iau |
1:30pm to 3pm |
Gweithgareddau |
Hafan Cefni, Llangefni |
| Pedwerydd dydd Iau y mis |
11am to 12pm |
Sinema dementia gyfeillgar |
Neuadd Bentref Llangoed |
| Dydd Gwener |
11am to 12pm |
Ymarferion cadair ysgafn |
Canolfan Dementia Ynys Môn (Canolfan Glanhwfa), Llangefni |
| Dydd Gwener cyntaf y mis |
1:30pm to 3pm |
Dementia Actif Rhosneigr |
Clwb Golff Rhosneigr |
| Trydydd Dydd Gwener y mis |
1:30pm to 3pm |
Clwb paned, sgwrs a gweithgareddau |
Neuadd Goffa Llanfairpwll |
Manteision
- Mae’r galon a’r ysgyfaint yn dod yn gryfach ac yn fwy effeithlon.
- Mae cryfder cyhyrol yn cynyddu.
- Mae cymalau’n dod yn gryfach.
- Gellir oedi dechrau osteoporosis.
- Gall braster corfforol a gor-bwysau gael eu lleihau.
- Gallai ymlacio a chwsg wella.
- Bod yn fwy abl i weithredu gweithgareddau byw bob dydd.
- Teimlo’n fwy effro ac egnïol.
- Cynnal ystum corff da.
- Cynorthwyo i normaleiddio pwysedd gwaed.
- Lleihau’r risg o ddatblygu clefyd siwgwr.
- Llai o risg o’r gwaed yn ceulo.
- Lleihau iselder a phryder.
- Gwella hyder a hunan-barc.
- Gwella gwybyddiaeth - mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gall ymarfer corff wella cof ac arafu dirywiad meddyliol.
- Gwella hyder.
- Lleihau'r risg o gwympo trwy wella cryfder a chydbwysedd.
Sut i ymuno
Mae 4 ffordd o gael eich cyfeirio at y Cynllun Dementia Actif Môn.
Ar-lein
Gwneud cais am Dementia Actif Môn
E-bost
dementiaactifmon@ynysmon.llyw.cymru
Ffôn
01248 752 957
Trwy ofyn proffesiynol
Giofynnwch i'ch gweithiwr iechyd proffesiynol, cyswllt cymorth cymunedol, Cymdeithas Alzheimer, cynghorwyr dementia neu drwy'r Ganolfan Dementia.
Cynllun Môn Actif 60+: Sesiynau ffitrwydd a llesiant
Mae’r Cynllun Môn Actif 60+ yn cynnig wyth wythnos o sesiynau ffitrwydd am ddim yn eich canolfan gymunedol neu neuadd bentref.
Bydd hyfforddwr cymwys yn darparu sesiwn ffitrwydd a fydd yn addas ar gyfer eich anghenion.
Byddwyn yn talu gost y hyfforddwr. Ein nod yw gweithio gydag 8 lleoliad cymunedol rhwng Hydref-Rhagfyr 2023, gydag 8 cymuned arall ym mis Ionawr 2024.
Dywedwch wrthym pam fod eich canolfan yn haeddu lle
Dogfen
Fformatau eraill
Efallai na fydd y fformatau eraill yma'n hygyrch
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.