Mae 39 o ysgolion cynradd ar hyd yr ynys yn gweithredu brecwast am ddim ar hyn o bryd. Mae’r fenter brecwast yn rhoi cyfle i blant mewn ysgolion cynradd dderbyn brecwast iach am ddim yn yr ysgol bob dydd.
Cydnabyddir brecwast fel pryd pwysicaf y dydd ac mae tystiolaeth yn dangos bod brecwast iach yn gysylltiedig â gwell iechyd, canolbwyntio ac ymddygiad i gyflawni eu potensial addysgol llawn yn ein hysgolion.
Mae’r rhan fwyaf o glybiau brecwast yn agor am 8:05am ac mae brecwast am ddim ar gael o 8:25am. Dylai’r dewis o fwyd sydd ar gael gydymffurfio â’r Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 a chynnwys y 4 grŵp bwyd.
- Llefrith a chynnyrch llefrith
- Grawnfwyd – heb ei orchuddio â siwgr
- Ffrwyth
- Bara
- Sudd ffrwythau neu lefrith
(Noder, ar amseroedd efallai y bydd ychydig o amrywiaeth yn ein bwydlen brecwast).
Cost
Noder y codir tâl o £1.25 y plentyn am y clwb gofal cyn-brecwast 20 munud.
Llefrith
Darperir traean peint o lefrith bob dydd yn ddi-dâl:
- ar gyfer disgyblion dan 7 oed
- i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig
- i unrhyw blentyn o oed cynradd sydd angen llefrith ar sail feddygol ac y mae tystysgrif feddygol wedi’i chyflwyno ar eu cyfer gan y swyddog meddygol yr ysgol.