Gallwch wneud cais i drosglwyddo rhwng ysgolion neu ddychwelyd i addysg brif lif ar-lein.
Mae ffurflen ar-lein ar y dudalen hon.
Darllenwch yr holl wybodaeth ar y dudalen hon cyn gwneud cais.
Nid yw gwneud cais yn gwarantu trosglwyddiad i ysgol arall
Nid yw cwblhau’r ffurflen hon yn gwarantu mynediad i unrhyw ysgol.
Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Ynys Môn ar hyn o bryd, bydd yr wybodaeth rydych yn ei rhoi ar y cais hwn, gan gynnwys y rheswm dros wneud cais, yn cael ei rhannu â phennaeth ysgol bresennol eich plentyn yn ogystal â phennaeth/penaethiaid eich dewis/dewisiadau newydd.
Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi drafod newid ysgol gydag uwch aelod o staff yn ysgol bresennol eich plentyn er mwyn osgoi oediad diangen.
Pethau pwysig i'w hystyried
Mae nifer o resymau pam efallai y byddwch yn dymuno newid ysgol eich plentyn yn ystod y flwyddyn academaidd, ond mae’n bwysig eich bod yn ystyried ai trosglwyddo yw’r opsiwn gorau mewn gwirionedd.
Gall newid ysgol gael effaith negyddol ar eich plentyn, megis:
- amharu ar eu haddysg, y gall effeithio ar eu cynnydd academaidd
- effaith ar eu hamgylchedd cymdeithasol, eu grwpiau ffrindiau a’u gweithgareddau allgwricwlaidd
- efallai na fydd lle ar gael i’ch plentyn yn eich ysgol ddewisol, ac os ydych yn gobeithio trosglwyddo brodyr ac/neu chwiorydd hefyd, efallai na fyddant i gyd yn cael cynnig yr un ysgol
- bydd y nifer o gymwysterau y gall eich plentyn eu cyflawni ym mlwyddyn 10 a 11 yn cael eu heffeithio os nad oes gan yr ysgol newydd yr un opsiynau academaidd ar gael. Bydd angen i chi ystyried y goblygiadau posibl o’ch plentyn yn peidio â gallu parhau i astudio’r un pynciau neu ddewisiadau pwnc, a’u gwaith cwrs presennol ddim yn gymwys i gorff arholi arall
Gall newid ysgol hefyd gael effaith ar gymhwysedd eich plentyn i gael cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol.
Oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol er enghraifft ar ôl symud tŷ, fe'ch cynghorir yn gryf i weithio gydag ysgol bresennol eich plentyn yn hytrach na throsglwyddo.
Efallai y bydd siarad â'ch plentyn a staff yn ysgol bresennol eich plentyn yn osgoi'r angen am drosglwyddiad
Rhesymau cyffredin dros wneud cais i drosglwyddo
Beth ddylech chi ei wneud
Dylech drafod eich pryderon â’r pennaeth blwyddyn, athro dosbarth neu’r pennaeth. Os ydych yn teimlo nad yw’r ysgol wedi ymateb yn briodol, dylech ofyn i’r ysgol am gopi o’i gweithdrefn cwynion ysgol a dilyn y camau yr amlinellir. Mae’n rhaid cymryd cwynion ysgol o ddifrif.
Ein cyngor
Yn ein profiad, nid yw symud oherwydd anfodlonrwydd â’r ysgol yn datrys y broblem. Rydym yn aml yn gweld y math hwn o broblem yn dod i’r wyneb eto yn yr ysgol newydd, a dyna pam mae’n well mynd i’r afael â’r broblem cyn i chi symud.
Beth ddylech chi ei wneud
Dylech eistedd i lawr gyda’ch plentyn a cheisio canfod pam nad yw’n mynychu’r ysgol. Siaradwch ag athrawon eich plentyn. A oes unrhyw bynciau y mae’r plentyn yn poeni amdanynt?
Ein cyngor
Mae’n rhaid i blant fynychu’r ysgol. Yn aml, rydym yn gweld y gellir adnabod y broblem a rhoi camau ar waith wrth siarad â’ch plentyn a’r ysgol. Gofynnwch i’r ysgol ddarparu manylion cyswllt ei Swyddog Lles Addysg.
Beth ddylech chi ei wneud
Dylech gysylltu â’r ysgol a gofyn am gopi o’i pholisïau diogelu, gwrth-fwlio neu les emosiynol (byddai bwlio’n cael ei ystyried fel ymddygiad gan unigolyn neu grŵp, wedi’i ailadrodd dros amser, sy’n brifo eraill yn fwriadol yn gorfforol neu’n emosiynol).
Os ydych yn teimlo nad yw’r polisïau hyn wedi cael eu dilyn, dylech hysbysu’r ysgol.
Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i fynd i’r afael â bwlio, ac mae pob ysgol wedi’u cyfarparu i ddelio â hyn.
Ein cyngor
Os ydych yn teimlo nad ydynt wedi gwneud hyn, cysylltwch â’r pennaeth neu’r corff llywodraethol. Os yw’r bwlio’n benodol ddifrifol, gallwch hefyd gysylltu â’r heddlu, h.y. os yw hefyd yn digwydd y tu allan i’r ysgol.
Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i amddiffyn lles corfforol ac emosiynol eu disgyblion. Os nad yw hyn wedi bod yn wir ar gyfer eich teulu, mae’n rhaid codi hyn â’r ysgol a fydd yn gallu cyfryngu, symud dosbarthiadau, ac ati.
Beth ddylech chi ei wneud
Dylech gwneud apwyntiad i siarad â’r pennaeth. Os nad yw hyn yn gweithio, gallwch godi cwyn. Gofynnwch am gopi o’u gweithdrefn cwynion ysgol a dilynwch y camau yr amlinellir. Mae gan yr ysgol gyfrifoldeb i ddatrys problemau gyda’ch plentyn.
Ein cyngor
Rydym yn argymell i rieni drafod y materion gyda’u hysgol bresennol. Ni fyddai’n briodol disgwyl i’ch plentyn symud neu gael ‘llechen lân’ oherwydd na all yr ysgol fynd i’r afael â’ch pryderon (neu heb gael cyfle i ddatrys y broblem).
Beth ddylech chi ei wneud
Dylech siarad ag athro, pennaeth blwyddyn neu bennaeth eich plentyn. Gwiriwch a oes gan eich plentyn gynllun cefnogaeth fugeiliol, cynllun ymddygiad cadarnhaol neu a ydynt wedi cael eu hadnabod gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Gofynnwch am adolygiad o’r cynllun cefnogaeth fugeiliol, neu unrhyw gynlluniau eraill sydd ar waith i gefnogi ymddygiad eich plentyn.
Os nad ydynt yn derbyn unrhyw gefnogaeth ychwanegol, gofynnwch i siarad ag aelod o staff i drafod hyn.
Ein cyngor
Os oes gan yr ysgol bryderon ynghylch ymddygiad eich plentyn, nid ydym yn argymell eu symud i ysgol arall. Ni ddylai unrhyw ysgol fod yn awgrymu hyn i’ch plentyn. Gallai aflonyddwch waethygu’r broblem. Os ydych angen cymorth â hyn, cysylltwch â ni.
Beth ddylech chi ei wneud
Dylech siarad â’r athro sy’n gyfrifol am Anghenion Dysgu Ychwanegol (cydlynydd ADY) yn yr ysgol ac e-bostio tîm ADY a Chynhwysiad yr Awdurdod Lleol at GweinyddolADYaCH@gwynedd.llyw.cymru
Ein cyngor
Rydym yn argymell bod rhieni’n ymgysylltu â chydlynydd ADY neu dîm cefnogaeth fugeiliol yr ysgol.
Polisi mynediad ysgolion
Cynghorwn rhieni i ddarllen 'Polisi Mynediad Ysgolion 2025 i 2026'.
Llawlyfr gwybodaeth i rieni
Cynghorwn rhieni i ddarllen y lawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni'.
Gwneud cais ar-lein
Pan fyddwch chi'n cael penderfyniad
Trosglwyddiadau ysgol gynradd
Dylech gael penderfyniad drwy e-bost o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod gwaith (pa un bynnag sydd gynharaf).
Trosglwyddiadau ysgol uwchradd
Dylai'r awdurdod neu'ch dewis ysgol gysylltu â chi o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod gwaith (pa un bynnag sydd gynharaf).
Efallai y cewch eich gwahodd i gael trafodaeth yn yr ysgol. Nid cyfweliad fyddai hwn.