Cyngor Sir Ynys Môn

Mynediad i ysgolion uwchradd (blwyddyn 7) ar gyfer Medi 2026


Darllenwch y dudalen hon i gyd cyn gwneud cais.

Mae’r cais hwn yn berthnasol ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2014 a 31 Awst 2015.

Mae'r cais hwn ar gyfer blwyddyn 7 yn:

  • Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch
  • Ysgol Uwchradd Caergybi
  • Ysgol Gyfun Llangefni
  • Ysgol David Hughes
  • Ysgol Uwchradd Bodedern

Pryd y byddwch yn cael penderfyniad

Byddwch yn derbyn e-bost gan Gyngor Sir Ynys Môn i roi’r penderfyniad i chi ar 2 Mawrth 2026.

Dim gwarant

Nid yw cwblhau'r ffurflen gais yn gwarantu mynediad i unrhyw ysgol.

Polisi mynediad ysgolion

Cynghorwn rhieni i ddarllen Polisi Mynediad Ysgolion 2026 i 2027.

Llawlyfr gwybodaeth i rieni

Cynghorwn rhieni i ddarllen y lawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni' a gwirio'r ardal dalgylch ysgol.

Ysgolion y tu allan i Ynys Môn

Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag awdurdod lleol yr ysgol.

Cyfrifoldeb rhiant

Rhaid i bob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros eich plentyn gytuno i’r cais yma. Os nad yw pob person â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno, neu os nad ydych yn gallu darparu copi o ddogfen gyfreithiol gan lys sy’n cadarnhau bod gennych chi gyfrifoldeb rhiant dros addysg eich plentyn, yna allwch barhau.

Gwneud cais ar-lein

Mae’r cais hwn yn berthnasol ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2014 a 31 Awst 2015. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Rhagfyr 2025.