Gwneud cais ar-lein
Y dyddiad cau oedd 1 Chwefror 2025 a’r diwrnod cynnig cenedlaethol oedd 16 Ebrill 2025.
Gall rhieni wneud cais o hyd.
Mae’r cais hwn yn berthnasol ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 a fydd yn cychwyn addysg amser llawn ym mis Medi 2025.
Dim gwarant
Nid oes unrhyw sicrwydd y gall eich plentyn fynd i ysgol sy'n un o'ch dewisiadau.
Pryd y byddwch yn cael penderfyniad
Byddwch yn cael y penderfyniad drwy e-bost o fewn yr 15 diwrnod ysgol nesaf.
Polisi mynediad ysgolion
Cynghorwn rhieni i ddarllen Polisi Mynediad Ysgolion 2025 i 2026.
Llawlyfr gwybodaeth i rieni
Cynghorwn rhieni i ddarllen y lawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni' a gwirio'r ardal dalgylch ysgol.
Ysgol Santes Fair ac Ysgol Caergeiliog
I wneud cais am fynediad i Ysgol Santes Fair neu Ysgol Caergeiliog, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol.
Cynghorwn rhieni i ddarllen y lawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni' a gwirio'r ardal dalgylch ysgol gan ddefnyddio MapMôn cyn gwneud cais.
Ysgolion y tu allan i Ynys Môn
Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag adurdod lleol yr ysgol.