Darllenwch y dudalen hon i gyd cyn gwneud cais.
Mae'r cais hwn ar gyfer blwyddyn 7 yn:
- Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch
- Ysgol Uwchradd Caergybi
- Ysgol Gyfun Llangefni
- Ysgol David Hughes
- Ysgol Uwchradd Bodedern
Dyddiad cau
Y dyddiad cau yw 31 Hydref 2026.
Bydd unrhyw gais neu newid yn y dewisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu nodi fel “Hwyr”. Bydd ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau yn cael blaenoriaeth dros geisiadau hwyr.
Pryd y byddwch yn cael penderfyniad
Byddwch yn derbyn e-bost gan Gyngor Sir Ynys Môn i roi’r penderfyniad i chi ar 1 Mawrth 2027.
Rydym yn cynghori rhieni’n gryf i ddewis mwy nag un dewis gan fod lleoedd wedi’u dyrannu ar Ddiwrnod Cynnig Cenedlaethol 2 Mawrth 2026.
Dim gwarant
Nid yw cwblhau'r ffurflen gais yn gwarantu mynediad i unrhyw ysgol.
Polisi mynediad ysgolion
Cynghorwn rhieni i ddarllen Polisi Mynediad Ysgolion 2027 i 2028.
Llawlyfr gwybodaeth i rieni
Cynghorwn rhieni i ddarllen y lawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni' a gwirio'r ardal dalgylch ysgol.
Ysgolion y tu allan i Ynys Môn
Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag awdurdod lleol yr ysgol.
Cyfrifoldeb rhiant
Rhaid i bob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros eich plentyn gytuno i’r cais yma. Os nad yw pob person â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno, neu os nad ydych yn gallu darparu copi o ddogfen gyfreithiol gan lys sy’n cadarnhau bod gennych chi gyfrifoldeb rhiant dros addysg eich plentyn, yna allwch barhau.
Gwneud cais ar-lein
Mae’r cais hwn yn berthnasol ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2015 a 31 Awst 2016 a fydd yn cychwyn ysgol uwchradd ym mis Medi 2027.