Darllenwch y dudalen hon i gyd cyn gwneud cais.
Mae’r cais hwn yn berthnasol ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 a fydd yn cychwyn meithrin rhan-amser ym mis Medi 2026.
Pryd y byddwch yn cael penderfyniad
Byddwch yn derbyn e-bost gan Gyngor Sir Ynys Môn i roi’r penderfyniad i chi ar 16 Ebrill 2026.
Dim gwarant
Nid yw cwblhau'r ffurflen gais yn gwarantu mynediad i unrhyw ysgol.
Dim hawl i apelio
Nid oes hawl i apelio os gwrthodir lle rhan amser i chi mewn dosbarth meithrin.
Polisi mynediad ysgolion
Cynghorwn rhieni i ddarllen Polisi Mynediad Ysgolion 2026 i 2027.
Llawlyfr gwybodaeth i rieni
Cynghorwn rhieni i ddarllen y lawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni' a gwirio'r ardal dalgylch ysgol.
Ysgol Santes Fair
O fis Medi 2025 ymlaen, bydd rhieni’n gwneud cais drwy wefan yr Awdurdod Lleol am le yn yr ysgol hon. Fodd bynnag, gan mai’r corff llywodraethu sy’n gyfrifol am fynediad mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, cyfrifoldeb y llywodraethwyr yw penderfynu ar dderbyn disgyblion i’r ysgol hon.
Ceir manylion ynglŷn â pholisi mynediad llawn yr ysgol yma gan y pennaeth neu ar wefan Ysgol Santes Fair.
Ysgol Caergeiliog
Cysylltwch ag Ysgol Caergeiliog yn uniongyrchol.
Ysgolion y tu allan i Ynys Môn
Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag awdurdod lleol yr ysgol.
Cyfrifoldeb rhiant
Rhaid i bob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros eich plentyn gytuno i’r cais yma. Os nad yw pob person â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno, neu os nad ydych yn gallu darparu copi o ddogfen gyfreithiol gan lys sy’n cadarnhau bod gennych chi gyfrifoldeb rhiant dros addysg eich plentyn, yna allwch barhau.
Gwneud cais ar-lein
Mae’r cais hwn yn berthnasol ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 a fydd yn cychwyn meithrin rhan-amser ym mis Medi 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Chwefror 2026.