Cyngor Sir Ynys Môn

Mynediad i ddosbarth derbyn ar gyfer Medi 2027


Darllenwch y dudalen hon i gyd cyn gwneud cais.

Dyddiad cau

Y dyddiad cau yw 15 Ionawr 2027.

Bydd unrhyw gais neu newid yn y dewisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu nodi fel “Hwyr”. Bydd ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau yn cael blaenoriaeth dros geisiadau hwyr.

Pryd y byddwch yn cael penderfyniad

Byddwch yn derbyn e-bost gan Gyngor Sir Ynys Môn i roi’r penderfyniad i chi ar 16 Ebrill 2027.

Dim gwarant

Nid yw cwblhau'r ffurflen gais yn gwarantu mynediad i unrhyw ysgol.

Dim hawl i apelio

Nid oes hawl i apelio os gwrthodir lle rhan amser i chi mewn dosbarth meithrin.

Polisi mynediad ysgolion

Cynghorwn rhieni i ddarllen Polisi Mynediad Ysgolion 2026 i 2027.

Llawlyfr gwybodaeth i rieni

Cynghorwn rhieni i ddarllen y lawlyfr 'Gwybodaeth i Rieni' a gwirio'r ardal dalgylch ysgol.

Ysgol Santes Fair ac Ysgol Caergeiliog

O fis Medi 2026 ymlaen, bydd rhieni’n gwneud cais drwy wefan yr awdurdod lleol am lefydd yn yr ysgolion hyn. Fodd bynnag, gan mai’r corff llywodraethu yw’r awdurdod mynediad yn yr ysgolion hyn, cyfrifoldeb y llywodraethwyr yw penderfynu ar dderbyn disgyblion iddynt.

Am gopi o’u polisïau mynediad, cysylltwch â’r ysgolion yn uniongyrchol.

Ysgol Santes Fair, Caergybi

Rhif ffôn: 01407 763176
Gwefan: www.ysgolsantesfair.co.uk               

Ysgol Caergeiliog

Rhif ffôn: 01407 740619
Gwefan: www.ysgolcaergeiliog.cymru/en/home 

Ysgolion y tu allan i Ynys Môn

Ar gyfer unrhyw ysgol y tu allan i ffin Ynys Môn, cysylltwch ag awdurdod lleol yr ysgol.

Cyfrifoldeb rhiant

Rhaid i bob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros eich plentyn gytuno i’r cais yma. Os nad yw pob person â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno, neu os nad ydych yn gallu darparu copi o ddogfen gyfreithiol gan lys sy’n cadarnhau bod gennych chi gyfrifoldeb rhiant dros addysg eich plentyn, yna allwch barhau.

Gwneud cais ar-lein

Mae’r cais hwn yn berthnasol ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 a fydd yn cychwyn addysg llawn-amser ym mis Medi 2027.