Cyngor Sir Ynys Môn

Rhaglen Dechrau'n Deg


Dechrau'n DegMae Dechrau'n Deg yn rhan o raglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant dan 4 oed.

Beth mae Dechrau'n Deg yn ei gynnig

Mae Dechrau’n Deg yn dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys ymwelwyr iechyd, gweithwyr teulu, staff gofal plant, ymwelwyr iechyd, therapydd lleferydd ac iaith, athrawes blynyddoedd cynnar, cynorthwywyr iechyd a thîm o staff cefnogi ymroddedig.

Mae’r rhaglen yn anelu at ddarparu gwasanaethau cymorth dwys i blant o dan 4 oed a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen yn hyrwyddo:

  • sgiliau iaith
  • sgiliau gwybyddol (megis meddwl, deall, dysgu a chofio)
  • sgiliau cymdeithasol ac emosiynol
  • datblygiad corfforol
  • adnabod anghenion uchel yn gynnar

Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu:

  • cymorth ac arweiniad iechyd
  • cymorth i rieni
  • grwpiau a chefnogaeth iaith, lleferydd a chyfathrebu
  • gofal plant rhan-amser o ansawdd i blant 2 i 3 oed

Nod y cynllun yw darparu gwasanaeth cymorth dwys i blant 0 i 4 oed a’u teuluoedd. Canolbwynt y rhaglen yw hyrwyddo:

  • sgiliau cymdeithasol
  • emosiynol
  • gwybyddol ac iaith
  • datblygiad corfforol
  • adnabod anghenion sylweddol yn gynnar

Hysbysiad preifatrwydd i deuluoedd Dechrau'n Deg

Mae gennych hawl i wybod sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi. Bydd y ddolen hon yn agor tab newydd yn eich porwr.