Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Hysbysiad preifatrwydd Ehangu Gofal Plant Dechrau’n Deg

Y cyngor yw’r rheolydd data ar gyfer yr Gofal Plant 2 Oed (Dechrau’n Deg).

Yr hysbysiad preifatrwydd hwn

Pwrpas yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw dweud wrthych sut y bydd y cyngor yn prosesu eich data personol at ddiben cyflawni Gofal Plant 2 Oed (Dechrau’n Deg). Mae gennych hawliau o ran sut y caiff eich data eu casglu a'u defnyddio at y diben hwn. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi yma beth yw’r hawliau hynny a sut y gallwch eu harfer.

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol.

Ni chaniateir i’r cyngor ddefnyddio, casglu na rhannu gwybodaeth bersonol oni bai bod gennym sail gyfreithiol briodol dros wneud hynny. Dim ond er mwyn cyflawni ein swyddogaethau cyfreithiol a swyddogol y byddwn yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol. Ni fyddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol oni bai y bydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny a lle mae’n angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

Mae’r cyngor wedi penodi Swyddog Diogelu Data i helpu i sicrhau ei fod yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol wrth brosesu data personol. Gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bost yn DPO@ynysmon.llyw.cymru

Pa ddata personol ydym yn ei gasglu a pham

Mae eich data personol yn cael eu casglu a'i defnyddio i weinyddu, monitro a rheoli Gofal Plant 2 Oed (Dechrau’n Deg).

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich data personol i gysylltu â chi am faterion cysylltiedig.

Rydym yn casglu:

  • Manylion y plentyn: enw cyntaf a chyfenw / dyddiad geni / rhyw / manylion anghenion ychwanegol / meddygol
  • Manylion rhieni / gofalwyr: enw'r rhiant (rhieni) / gofalwr pennaf / cyfeiriad prif gartref y plentyn / rhif ffôn / e-bost
  • Cyffredinol: prif iaith y cartref / dewis iaith

Bydd Dogfennau Adnabod yn cael eu casglu er mwyn gwirio; enw a chyfeiriad y prif ofalwr, ac enw a dyddiad geni’r plentyn.

Sut rydym yn defnyddio eich data personol

Mae’r cyngor yn casglu eich data personol er mwyn gweinyddu, monitro a rheoli Gofal Plant 2 Oed (Dechrau’n Deg). Gall ‘data personol’ ymwneud â’r rhiant/rhieni neu’r plentyn/plant. Mae prosesu eich data personol yn hanfodol fel rhan o’n Tasg Gyhoeddus a ddiffinnir gan Lywodraeth Cymru ac er budd sylweddol y cyhoedd er mwyn cyflawni rhaglen Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn Ynys Môn.

Mae’n ofynnol bod Dechrau’n Deg a’r lleoliad gofal plant yn rhannu data personol, y cyfyngir i’r hyn sy’n angenrheidiol ar gyfer ddarparu’r rhaglen yn unig.

Lle bo angen, at ddiben cefnogi dysgu a lles eich plentyn, gall Tîm Gofal Plant Dechrau’n Deg hefyd rannu gwybodaeth a gafwyd o’r gwasanaethau isod gyda’r lleoliad gofal plant y mae eich plentyn yn ei fynychu.

Rydym yn defnyddio’r sail gyfreithlon a ganlyn dan GDPR y DU dros brosesu data personol:

Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU – mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol.

Rhannu eich data personol

Gall y cyngor rannu eich data â phartïon allanol eraill lle mae’n ofynnol inni wneud hynny neu pan fo’n gyfreithlon ac yn briodol gwneud hynny.

Mae Tîm Gofal Plant Dechrau’n Deg yn cefnogi darpariaethau gofal plant ar gyfer plant a ariennir gan Dechrau’n Deg, ac, er mwyn gwneud hyn, gall rannu gwybodaeth berthnasol am blant ariannwyd, gan gynnwys eu presenoldeb mewn lleoliadau a/neu eu datblygiad gyda gwasanaethau eraill megis:

  • ymwelwyr iechyd
  • darparwyr gofal plant cofrestredig
  • Tîm Blynyddoedd Cynnar
  • gwasanaethau lleferydd ac iaith
  • Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant, Blynyddoedd Cynnar

Sylwch, lle gallwn rannu eich data yn allanol, y sefydliad hwnnw fydd yn cymryd cyfrifoldeb am eich data bryd hynny a dylech droi at eu hysbysiad preifatrwydd eu hunain am fanylion ar sut y byddant yn prosesu eich data.

Eich hawliau fel gwrthrych data

Eich data personol chi yw’r data sy’n cael eu casglu, ac mae gennych hawliau sy’n cael effeithio ar yr hyn sy’n digwydd iddynt. Mae gennych yr hawl i weld y data personol y mae’r cyngor yn eu cadw amdanoch, cael copi ohonynt a gofyn i’r Awdurdod gywiro eich data personol os oes unrhyw wallau neu os ydynt wedi dyddio. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl, hefyd, i ofyn i’r cyngor roi’r gorau i brosesu eich data personol hyd nes y caiff unrhyw wallau eu cywiro, gwrthwynebu prosesu neu drosglwyddo eich data personol neu (yn anaml iawn) eu dileu.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir uchod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/ neu drwy eu llinell gymorth ffôn 0303 123 1113.

Storio, diogelu a rheoli data

Mae gan y cyngor [a lle mae rheolydd data arall neu brosesydd data yn ymwneud â’r prosesu, nodwch y canlynol: ac mae gan y sefydliadau sy’n bartner iddo] ddyletswydd i ddiogelu a sicrhau diogelwch eich data personol pan fyddwn yn prosesu hyn.

Gwnawn hynny drwy gael systemau a pholisïau yn eu lle i gyfyngu ar fynediad i'ch gwybodaeth ac atal ei datgelu heb awdurdod, colled ddamweiniol neu newid eich data. Mae gennym hefyd weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri rheolau data personol a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys os torrir y gweithdrefnau lle mae'n ofynnol, yn gyfreithiol, i ni wneud hynny.

Am ba mor hir y bydd y cyngor yn cadw’r data personol

Bydd y Cyngor yn cadw data personol a gafwyd o'r ffurflen Gofal Plant 2 Oed (Dechrau’n Deg) a’r dogfennau tystiolaeth wedi'u llwytho am hyd at 7 mlynedd ac yna'n cael gwared arno'n ddiogel

Cwynion a mwy o wybodaeth

Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.

Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae’r cyngor wedi gweithredu wrth ddefnyddio eich data personol, gallwch wneud cwyn trwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data.

Os ydych dal yn anfodlon neu’n dymuno cyngor annibynnol ar ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu â:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth Wycliffe House, Water Lane Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545 745

https://ico.org.uk/

Cyhoeddwyd Chwefror 2024