Efallai y bydd pobl sydd ag ardystiad meddygol bod ganddyn nhw amhariad gwybyddol sylweddol yn gymwys i dalu dim Treth Gyngor neu i dalu llai ar gyfer yr eiddo y maen nhw'n byw ynddo.
Beth yw amhariad gwybyddol sylweddol
Ystyrir bod gan berson amhariad gwybyddol sylweddol os oes ganddo gyflwr meddwl difrifol a pharhaol, neu niwed niwrolegol difrifol a pharhaol, sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu ac sy'n cael effaith sylweddol ar fywyd beunyddiol yr unigolyn hwnnw.
Mae cyflyrau a allai arwain at amhariad gwybyddol sylweddol yn cynnwys (ymysg cyflyrau eraill):
- clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia
- clefyd Parkinson
- anawsterau dysgu difrifol
- strôc
- cyflyrau niwrolegol neu feddyliol eraill sy'n arwain at amhariad gwybyddol difrifol, parhaol
Nid yw dioddef o un o'r cyflyrau hyn o reidrwydd yn golygu bod person yn gymwys. Rhaid i feddyg neu ymarferydd meddygol roi diagnosis ffurfiol o amhariad gwybyddol sylweddol i'r person.
Meini prawf cymhwystra
To qualify for a Council Tax reduction or exemption under SCI rules, a person must:
- fod ag ardystiad meddygol gan feddyg neu ymarferydd meddygol bod ganddo amhariad gwybyddol sylweddol; a
- Bod â hawl i o leiaf un o'r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Byw i'r Anabl (cyfradd uwch neu ganolradd yr elfen ofal)
- Cynnydd yn y pensiwn anabledd (am fod angen gweini cyson)
- Tâl Atodol neu Lwfans i'r Anghyflogadwy
- Credyd Treth Gwaith (gydag elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol)
- Taliad Annibyniaeth Personol (cyfradd safonol neu uwch)
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Cymhorthdal Incwm (sy'n cynnwys premiwm anabledd)
- Credyd Cynhwysol (o dan amgylchiadau pan fo gallu person i wneud gwaith a/neu weithgarwch cysylltiedig yn gyfyngedig)
Lefel y disgownt
Mae'r gostyngiad a gewch yn dibynnu ar faint o bobl rydych chi'n byw gyda nhw ac a ydyn nhw'n gymwys i dalu'r Dreth Gyngor.
Esemptiad o 100% (dim Treth Gyngor i'w thalu)
Ni fydd rhaid ichi dalu unrhyw Dreth Gyngor:
- os ydych chi wedi cael ardystiad meddygol bod gennych amhariad gwybyddol sylweddol ac os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, neu
- os ydych chi'n byw gyda phobl eraill sydd hefyd wedi cael ardystiad meddygol bod ganddyn nhw amhariad gwybyddol sylweddol.
Disgownt o 25%
Mae disgownt o 25% yn gymwys:
- os ydych chi wedi cael ardystiad meddygol bod gennych amhariad gwybyddol sylweddol, ac
- os ydych chi'n byw gydag un oedolyn sy'n gymwys i dalu'r Dreth Gyngor
Disgownt o 50%
Efallai y byddwch yn cael disgownt o 50%:
Dim disgownt
Ni fyddwch yn cael unrhyw ddisgownt:
- os ydych chi wedi cael ardystiad meddygol bod gennych amhariad gwybyddol sylweddol ac os ydych chi'n byw gyda dau neu fwy o oedolion sy'n gymwys i dalu'r Dreth Gyngor.
Gwneud cais
Gwneud cais am disgownt oherwydd amhariad gwybyddol sylweddol
Yna byddwn yn cadarnhau a ydych chi'n gymwys:
- yn rhoi cyngor ar ba dystiolaeth y gallai fod ei hangen arnoch chi
- yn egluro sut i wneud cais